Methu deall beth sy'n bod ar 'detholiad'. Teimlo fod y cwsmer yn gweld
rhyw hud yn perthyn i 'extract' nad yw'n bod.
2012/1/17 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Wel, chwarae teg i'r cwsmer am fod mor ymwybodol o ramadeg, ond os glynodd
> at "echdyniad" mae rhywbeth yn bod ar ei glust.
>
> Geraint
>
> On 16 Ion 2012, at 23:08, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:
>
> Wnes i ddim diolch i Claire o’r blaen, gan fy mod i’n aros i weld ymateb y
> cwsmer i f’awgrym: “data a gasglwyd/gafwyd/ddewiswyd yn arbennig gan
> Lywodraeth Cymru”?
>
> Yn anffodus, ni dderbyniwyd yr awgrym.
>
>
>
> Ond rhaid imi ddweud rhywbeth er glod y cwsmer. ‘Roedden ni’n trafod rhyw
> bwynt gramadegol arall, ac mi gyfeiriais at lyfr Peter Wyn Thomas, gan
> gynnig anfon copi o'r tudalen os nad oedd ganddo gopi. Dywedodd: “Mae copi
> gen i (yma a gartref)”. Faint o gyfieithwyr fyddai’n medru dweud hynny?
> “Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel”!
>
>
>
> Ann
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
> Sent: 12 January 2012 15:16
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: extract
>
>
>
> Y diffiniadau o’r we
>
>
>
> Extract tr.v.
>
> 1. To draw or pull out, often with great force or effort: extract a wisdom
> tooth; used tweezers to extract the splinter.
>
> 2. To obtain despite resistance: extract a promise.
>
> 3. To obtain from a substance by chemical or mechanical action, as by
> pressure, distillation, or evaporation.
>
> 4. To remove for separate consideration or publication; excerpt.
>
> 5.
>
> a. To derive or obtain (information, for example) from a source.
>
> b. To deduce (a principle or doctrine); construe (a meaning).
>
> c. To derive (pleasure or comfort) from an experience.
>
> 6. Mathematics To determine or calculate (the root of a number).
>
>
>
> Enw sy’n deillio o’r ferf gydag ystyr 5a sydd gan y cwsmer, ynte. Dyw’r enw
> “extract” gyda’r ystyr hwnnw ddim yn ymddangos yng Ngeiriadur Rhydychen.
> Fyddai modd defnyddio berf yma? “Ystadegau / data a gafwyd yn arbennig gan
> Lywodraeth Cymru”?
>
>
>
> Claire
>
>
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 12 January 2012 14:59
> To: [log in to unmask]
> Subject: extract
>
>
>
> Dyma’r cyd-destun
>
> Saesneg: special extract by the Welsh Government (yn son am dynnu rhai
> ystadegau o gyfrifiad)
>
> Cymraeg y cwsmer: echdyniad arbennig gan Lywodraeth Cymru
>
>
>
> Ann (at y cwsmer): Mae "echdyniad" yn air gwyddonol, o fyd cemeg. A fyddai
> "detholiad" yn ffitio? Os na, a hoffech egluro ychydig, er mwyn imi ofyn
> barn Bruce?
>
>
>
> Cwsmer: Wn i ddim am entymoleg y gair na o ble mae’r ‘ech’ yn dod ond mae’r
> enghreifftiau rwy’n gallu dod o hyd iddynt yn cynnwys pethau sy’n golygu
> ‘tynnu allan’ a dyna sy yma, ond bod data wedi ei dynnu allan o gronfa ddata
> yn hytrach nag olew o’r ddaear neu gemegyn o fwyn. Gair IT ydw i eisiau
> felly. Dydy detholiad ddim yn ddrwg ond ei fod yn awgrymu eu bod wedi dethol
> beth i’w roi ond fi ddewisodd a nhw a’i tynnodd!
>
>
>
> Ydy unrhyw un yn gyfarwydd a’r maes ac yn medru dweud pa beth a ddefnyddir,
> ynteu awgrymu rhywbeth (fuasech chi cystal a dweud wrth ymateb, ai gair a
> ddefnyddir ynteu awgrym sydd gennych, os gwelwch yn dda.) Mae echdyniad yn
> swnio’n annaturiol iawn i mi.
>
>
>
> Diolch yn fawr iawn,
>
>
>
> Ann
>
>
>
> <image001.jpg>
>
>
|