Erioed wedi clywed 'malwen' yn cael ei ddefnyddio y tu fas i'r grwp
'ma. Pawb yn dweud 'at'
( neil shadrach at corryn dot com )
2012/1/19 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
> Dyna ddatrys y broblem felly:
>
> "Pwyswch y symbol bach od 'na"!!
>
> O ddifri - dwi'n cael fy nhemtio i bleidio'r "glwyd" - mae'n Gymraeg a'n
> Gymreigaidd - ac mae "a falwen" wedi'i dderbyn yntydi? Ynteu ai fi sy'n byw
> mewn bybl?
>
> Siân
>
>
> On 19 Ion 2012, at 15:36, Carolyn wrote:
>
> Doedd gan hen berthynas imi ddim syniad be oedd yr 'hash' roedd hi i fod i'w
> bwyso wrth glywed neges Saesneg. Ond mi ddefnyddiodd ei synnwyr cyffredin
> gan feddwl... wel, nid un o'r rhifau, nid y seren - mae'n rhaid mai'r symbol
> bach od 'na maen nhw'n feddwl!
>
> ________________________________
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
> Anfonwyd/Sent: 19 Ionawr 2012 15:33
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: Hash Key
>
>
> Ond fyddai dim modd gwbod, na fydda - ella na dwi'm di ffonio'r rhif hwnnw
> ers blynyddoedd, a'r newid wedi digwydd yn y cyfamser...ac os na Peth sydd
> yno, nid bod dynol, fedra i ddim gofyn be ydi'r glwyd ne'r llidiard ne beth
> bynnag...
>
> Anna
>
> 2012/1/19 Ann Corkett <[log in to unmask]>
>
>
> Hm! Gallai’r yr un sy’n ricordio’r sgript gynnwys y darn mewn cromfachau
> hefyd. Y cwestiwn wedyn fyddai pryd i newid y sgript gan gymryd bod pawb
> wedi dod i ddeall ac yn sgrechian bob tro wrth glywed y Saesneg!
>
> Ann
> ________________________________
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
> Sent: 19 January 2012 15:10
>
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Hash Key
>
>
> Ond be os mabwysiadir y term a'i ddeud ar y ffon a run enaid byw y gall
> rhywun siarad a nhw??
>
> Anna
>
> 2012/1/19 Ann Corkett <[log in to unmask]>
> Rhaid cyflwyno’r term iddyn nhw (ac i minnau) trwy roi’r Saesneg mewn
> cromfachau ar ei ol y tro cyntaf.
> Ann
> ________________________________
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
> Sent: 19 January 2012 15:00
>
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Hash Key
>
>
> Dyna ydi o yn Eidaleg hefyd - ond oes yna rywun (ar wahan i ddarllenwyr Y
> Termiadur ac aelodau'r cylch) yn mynd i ddallt hynny? Ydi'r gair wedi cael
> ei dderbyn/yn gyfarwydd i drwch y boblogaeth?
>
> Anna
>
> 2012/1/19 Neil Shadrach <[log in to unmask]>
> http://termau.org/#hash
> "nod clwyd", "symbol clwyd" ( Y Termiadur )
>
> 2012/1/19 Rhian Huws <[log in to unmask]>:
>> 'clwyd' sydd ar TermCymru - statws 2.
>>
>> Rhian
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
>> Sent: 19 January 2012 14:21
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Hash Key
>>
>> Fel mae'n digwydd, mae fy nghwsmeriaid yn dod yn gyfarwydd a chyfeiriadau
>> at
>> yr arwydd stwnsh, gan fy mod i'n ei ddefnyddio mewn cyfieithiadau drafft i
>> dynnau sylw at gwestiynau a sylwadau. Ni welaf beth fyddai'n bod ar
>> "fotwm
>> stwnsh".
>>
>> Ann
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
>> Sent: 19 January 2012 14:07
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Hash Key
>>
>> Prynhawn da bawb,
>>
>> Meddwl oeddwn i tybed a yw "botwm hash" yn dderbyniol ar gyfer "hash key".
>> Rwy'n cyfieithu neges ffôn:
>>
>> Please enter the extension number followed by the hash key now.
>>
>> Diolch ymlaen llaw am eich sylwadau.
>>
>> Cofion,
>>
>> Meinir
>
>
>
>
>
|