"anïoneiddiol" efo l ar y diwedd oedd gen i yn hytrach nag "an-ïoneiddio".
Ar batrwm "annymunol" (sef ddim yn ddymunol), "annynol" (sef ddim yn ddynol)
ayb. ayb.
Geraint
Dwi ddim yn meddwl bod angen y cysylltnod chwaith, mae'r didolnod yn gwneud
gwaith hwnnw.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 25, 2011 3:27 PM
Subject: Re: non-ionising radiation
Siwr dy fod ti'n iawn, Geraint.
Mae GyrA yn rhoi "ïoneiddiol". Fi oedd wedi rhyw feddwl am
"anharddu" a meddwl y byddai "an-ïoneiddio" yn golygu cael gwared o'r
ïoneiddio yn hytrach na pheido ag ïoneiddio.
Diolch
Siân
On 25 Hyd 2011, at 15:07, Geraint Lovgreen wrote:
> A chymryd mai ymbelydredd oneiddiol ydi 'ionising radiation', wela'i ddim
> pam na ellir dweud ymbelydredd anïoneiddiol am 'non- ionising radiation'.
>
> Mae'r "an-" yn cyfleu'r gwrthwyneb i mi, yn yr un modd â'r "non-" yn y
> Saesneg.
>
> Geraint
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, October 25, 2011 2:39 PM
> Subject: non-ionising radiation
>
>
> Rwy wedi dod o hyd i "ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio" ac "ymbelydredd
> anïoneiddiol" ar y we.
> Dim llawer o enghreifftiau o'r naill na'r llall.
> Oes 'na un yn well na'r llall? Mae gan "anïoneiddiol" y fantais o fod
> yn un gair ond ydi e'n cyfleu'r ystyr yn iawn?
> Yn ôl GPC mae "an-" yn cyfleu'r gwrthwyneb - e.e. anharddu. Ond nid
> dyna'r ystyr sydd yma.
>
> Cafodd y term ei godi o'r blaen mewn trafodaeth ar "Oxidation of a fuel
> evolving heat, particulates, gases and non-io nizing radiation" (mae'r
> gair wedi'i rannu'n "non-io nizing")
>
> Diolch
>
> Siân
|