"anïoneiddiol" efo l ar y diwedd oedd gen i yn hytrach nag "an-ïoneiddio". Ar batrwm "annymunol" (sef ddim yn ddymunol), "annynol" (sef ddim yn ddynol) ayb. ayb. Geraint Dwi ddim yn meddwl bod angen y cysylltnod chwaith, mae'r didolnod yn gwneud gwaith hwnnw. ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, October 25, 2011 3:27 PM Subject: Re: non-ionising radiation Siwr dy fod ti'n iawn, Geraint. Mae GyrA yn rhoi "ïoneiddiol". Fi oedd wedi rhyw feddwl am "anharddu" a meddwl y byddai "an-ïoneiddio" yn golygu cael gwared o'r ïoneiddio yn hytrach na pheido ag ïoneiddio. Diolch Siân On 25 Hyd 2011, at 15:07, Geraint Lovgreen wrote: > A chymryd mai ymbelydredd oneiddiol ydi 'ionising radiation', wela'i ddim > pam na ellir dweud ymbelydredd anïoneiddiol am 'non- ionising radiation'. > > Mae'r "an-" yn cyfleu'r gwrthwyneb i mi, yn yr un modd â'r "non-" yn y > Saesneg. > > Geraint > > ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" > <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Tuesday, October 25, 2011 2:39 PM > Subject: non-ionising radiation > > > Rwy wedi dod o hyd i "ymbelydredd nad yw'n ïoneiddio" ac "ymbelydredd > anïoneiddiol" ar y we. > Dim llawer o enghreifftiau o'r naill na'r llall. > Oes 'na un yn well na'r llall? Mae gan "anïoneiddiol" y fantais o fod > yn un gair ond ydi e'n cyfleu'r ystyr yn iawn? > Yn ôl GPC mae "an-" yn cyfleu'r gwrthwyneb - e.e. anharddu. Ond nid > dyna'r ystyr sydd yma. > > Cafodd y term ei godi o'r blaen mewn trafodaeth ar "Oxidation of a fuel > evolving heat, particulates, gases and non-io nizing radiation" (mae'r > gair wedi'i rannu'n "non-io nizing") > > Diolch > > Siân