On Sep 29, 2011, Carolyn wrote:
> Dw i'n cofio defnyddio cwgn wrth gyfeithu stwff Microsoft Geraint ond roedd
> o'n ddiarth i mi hefyd.
Erioed wedi clywed y gair mewn unrhyw gyd-destun tan heddiw,
ond os yw cwgn yn meddwl 'knot' neu 'knuckle' dwi ddim yn credu
fod e'n gyfystyr a 'node' ymhob cyd-destun.
Mae node yn fwy o gangen, neu mewn cyd-destunnau eraill - plisgyn neu
gynhyswydd (e.e. yn iaith XML mae pob elfen wedi ei gwmpasu mewn
'node' a mae nhw yn byw o fewn ei gilydd, fel cylch o fewn cylch.
Mewn rhwydwaith gyfrifiadurol mae node yn gallu golygu cangen, ond
weithiau 'cwgn', neu bwynt canolog lle mae popeth yn cysylltu i'w
gilydd.
Falle fod 'nod' yn addas, ond mae'n dibynnu lot ar y cyd-destun.
|