Rwyt ti newydd enwi eithriad dy hun - 'cyn-geni'.
Ga'i awgrymu mai'r rheswm am hyn ydi mai berf ydio.
Oes yna unrhyw enghraifft o ferf yn treiglo'n feddal ar ol 'cyn-' ?
Geraint
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, September 22, 2011 10:07 AM
Subject: Re: pre-registration nursing
I ti, falle, ond dyw'r geiriaduron a'r gramadegau awdurdodol ddim yn
nodi bod unrhyw eithriad i'r rheol bod treiglad meddal ar o^l 'cyn-'.
Berwyn
2011/9/22 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
> Iawn efo ansoddeiriau, ond i fi dydi 'cyn' ddim yn treiglo berfau fel
> cofrestru (a does dim angen cysylltnod chwaith gyda berf). Mae "cyn geni"
> yn
> enghraifft o hyn - byddai'r ansoddair yn treiglo - 'cyn-enedigol'.
>
> ----- Original Message -----
> From: Berwyn Jones
> To: [log in to unmask]
> Sent: Thursday, September 22, 2011 8:48 AM
> Subject: Re: pre-registration nursing
> Mae 'cyn-' fel rhagddodiad yn treiglo - gweler o dan 'pre-' yng Ngeiriadur
> yr Academi, td. 1064: pre- (prefix), rhag- + soft mutation, cyn- + soft
> mutation, occ. blaen- + soft mutation.
> Y ffurfiau cywir, felly, yw 'cyn-Gambraidd, cyn-Geltaidd, cyn-ganseraidd,
> cyn-gofrestru (ond does dim treiglad yn 'cyn-geni').
> Gramadeg y Gymraeg, td 688-9 a nodyn [b] ar td 689 yn arbennig:
> Pan fo'n golygu 'blaenorol' neu 'gyda' ... bydd 'cyn-' yn sbarduno'r
> treiglad meddal; y treiglad trwynol a geir ar o^l 'cyn-' cryfhaol.
> Berwyn
>
> 2011/9/21 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>>
>> Dwi ddim yn deall pam y byddai neb yn treiglo fama - nyrsio cyn cofrestru
>> ydio siwr iawn.
>>
>> Dydi cyn ddim yn achosi treiglad yn y cyd-destun yma, nachdi?
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: Berwyn Jones
>> To: [log in to unmask]
>> Sent: Wednesday, September 21, 2011 4:13 PM
>> Subject: Re: pre-registration nursing
>> 'cyn-gofrestru' yw'r ffurf yng Ngeiriadur Bydwragedd Balličre (td. 222).
>> Berwyn
>>
>> 2011/9/21 Rhian Huws <[log in to unmask]>
>>>
>>> P’nawn da bawb
>>>
>>>
>>>
>>> Oes term cydnabyddedig ar gyfer yr uchod – methu dod o hyd i ddim ar
>>> Term
>>> Cymru ac am ryw reswm dyw’r Termiadur Ar-lein ddim yn gweithio.
>>>
>>>
>>>
>>> Wedi gwglo ac mae enghreifftiau o ‘cyn-cofrestru’, ‘cyn-gofrestru’ a
>>> ‘cyn
>>> cofrestru’...
>>>
>>>
>>>
>>> Yn ddiolchgar am bob cymorth
>>>
>>>
>>>
>>> Rhian
>>>
>>>
>
>
|