Diolch yn fawr iawn, Meinir. 'Dw i wedi bod mewn cysylltiad a Bet Eldred a
Glenys Williams erbyn hyn, a'r un ohonynt wedi gorfod cyfieithu "custody
vehicle" o'r blaen! Anfonais fanylion y cais at Bet, gan ei bod hi'n holi
ai cerbyd yr heddlu ynteu cerbyd cwmni diogelwch oedd dan sylw. Yn y
cyfamser, 'rwyf wedi defnyddio "derbynfa ddiogel ar gyfer cerbydau cludo
carcharorion", gan ystyried hynny fel *disgrifiad* yn hytrach na therm!
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 08 September 2011 13:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: custody vehicle
Prynhawn da Ann,
Wi heb ddod ar draws y term fy hun, ond beth 'bae diogel ar gyfer cerbydau'r
ddalfa'?
Cofion,
Meinir
|