Diolch yn fawr iawn, Meinir. 'Dw i wedi bod mewn cysylltiad a Bet Eldred a Glenys Williams erbyn hyn, a'r un ohonynt wedi gorfod cyfieithu "custody vehicle" o'r blaen! Anfonais fanylion y cais at Bet, gan ei bod hi'n holi ai cerbyd yr heddlu ynteu cerbyd cwmni diogelwch oedd dan sylw. Yn y cyfamser, 'rwyf wedi defnyddio "derbynfa ddiogel ar gyfer cerbydau cludo carcharorion", gan ystyried hynny fel *disgrifiad* yn hytrach na therm! Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas Sent: 08 September 2011 13:19 To: [log in to unmask] Subject: Re: custody vehicle Prynhawn da Ann, Wi heb ddod ar draws y term fy hun, ond beth 'bae diogel ar gyfer cerbydau'r ddalfa'? Cofion, Meinir