Rwy'n gwneud gwaith i asiantaeth PR sy'n gweithio ar brosiect i gwmni mawr.
Mae llawer o gyfeiriadau yn y gwaith at yr Infrastructure Planning Commission (IPC). Rai misoedd yn ôl, ar ddechrau'r gwaith, gofynnwyd i mi gyfieithu'r enw'n llawn y tro cyntaf yr oedd yn digwydd mewn dogfen a defnyddio IPC wedi hynny. Popeth yn iawn.
Erbyn hyn, maen nhw wedi penderfynu defnyddio acronymau Cymraeg yn cynnwys CCS am yr IPC, ACSs am Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAs), ac NDCs am Nghynlluniau Dyluniad Coedwigoedd!
Fe alla i roi fy nhroed i lawr gyda ACSs ac NDCs ond beth am AChS(oedd) a CDC(au)? A beth yw'r farn am IPC? Mae IPC a CCS yn digwydd yn eitha aml ar y we ond mae'r IPC ei hunan yn defnyddio IPC.
Mae'n debyg bod gan y Welsh-speaker in the office dipyn o glowt ac mae'r dyn bach rwy'n delio ag e yn tynnu gwallt ei ben yn treio cadw'r ddysgl yn wastad!!
Diolch
Siân
|