Aaa! Digon i yrru rhywun yn benwan!
Fy nghynnig i fysa delio efo IPC fel yr oeddet wedi gwneud yn wreiddiol.
Dydi'r acronymau eraill byth yn mynd i fod yn ddealladwy i neb felly yn
bersonol mi fasn i'n gwneud yr un peth efo'r rheiny, sef cyfieithu'r enw'n
llawn y tro cyntaf gyda'r acronym Saesneg mewn cromfachau ac wedyn cyfeirio
atynt fel ardaloedd SSA a chynlluniau FDP neu beth bynnag ydi'r acronym
Saesneg.
Geraint
Dydi'r Gymraeg ddim yn iaith addas ar gyfer acronymau.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, July 06, 2011 3:15 PM
Subject: acronymau eto fyth
Rwy'n gwneud gwaith i asiantaeth PR sy'n gweithio ar brosiect i gwmni mawr.
Mae llawer o gyfeiriadau yn y gwaith at yr Infrastructure Planning
Commission (IPC). Rai misoedd yn ôl, ar ddechrau'r gwaith, gofynnwyd i mi
gyfieithu'r enw'n llawn y tro cyntaf yr oedd yn digwydd mewn dogfen a
defnyddio IPC wedi hynny. Popeth yn iawn.
Erbyn hyn, maen nhw wedi penderfynu defnyddio acronymau Cymraeg yn cynnwys
CCS am yr IPC, ACSs am Ardaloedd Chwilio Strategol (SSAs), ac NDCs am
Nghynlluniau Dyluniad Coedwigoedd!
Fe alla i roi fy nhroed i lawr gyda ACSs ac NDCs ond beth am AChS(oedd) a
CDC(au)? A beth yw'r farn am IPC? Mae IPC a CCS yn digwydd yn eitha aml ar
y we ond mae'r IPC ei hunan yn defnyddio IPC.
Mae'n debyg bod gan y Welsh-speaker in the office dipyn o glowt ac mae'r dyn
bach rwy'n delio ag e yn tynnu gwallt ei ben yn treio cadw'r ddysgl yn
wastad!!
Diolch
Siân
|