Mae'r 'Uned Ymgysylltu' yn swnio fel rhywbeth o 'Brave New World', braidd!
Oes modd trafod o blith y staff Cymraeg er mwyn cael enw Cymraeg, yn hytrach
na chyfieithiad uniongrychol? Sai'n gwpod, rhywbeth sy'n sôn am hyder,
uchelgais, ymgrymsuo, syflaen sicr, 'cysylltu â dysgu' ???? Fe fydd y staff
yno â gwell syniad o beth yw diben y lle a beth sy'n digwydd yno, man a man
iddyn nhw fathu enw a fydd yn golygu rhywbeth penodol.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ceri Wyn
Williams
Anfonwyd/Sent: 13 Gorffennaf 2011 11:48
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Engage Base
Nac di wir - bechod ar y plant fydd yn yr uned ym mis Medi?!
Sent using BlackBerry® from Orange
-----Original Message-----
From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Wed, 13 Jul 2011 11:41:30
To: <[log in to unmask]>
Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Re: Engage Base
Coffi'n beth da iawn!
'Ystafell Dim Hwyl' - ddim yn argoeli'n rhy dda, nac'di?!
On 13 Jul 2011, at 11:34, Ceri Wyn Williams wrote:
> Oh dwi'n teimlo'n well ar ol coffi!
>
> Rwyf newydd weld yr athrawes fydd yn gyfrifol am yr uned newydd - ei
chynnig hi yw 'Ystafell Dim Hwyl'?! Ond dwi meddwl y buasai'n well
defnyddio Uned Ymgysylltu!
>
> Diolch yn fawr iawn Sioned.
>
> Ceri :-)
> Sent using BlackBerry® from Orange
>
> -----Original Message-----
> From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary <[log in to unmask]>
> Date: Wed, 13 Jul 2011 10:58:12
> To: <[log in to unmask]>
> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary <[log in to unmask]>
> Subject: Re: Engage Base
>
> A, reit. O'r nefoedd!
>
> Fyddai 'uned ymgysylltu' yn addas? .... ond os ydyn nhw eisiau colli'r
syniad PRU, falla ddim.
>
>
> On 13 Jul 2011, at 10:47, Ceri Wyn Williams wrote:
>
>> Haia Sioned
>>
>> O beth rwy’n ei ddeall uned newydd yn yr ysgol yw hon fydd yn darparu
addysg amgen i ddisgyblion sydd ddim yn gallu mynd i wersi prif ffrwd /
llawn amser. Rwy’n amau fod yr ysgol yn mynd i ddefnyddio’r teitl ‘Engage
Base’ yn lle’r ‘Pupil Referral Unit’ - am ei fod yn swnio’n fwy crand
efallai?! Pam maent yn dewis pethau sydd mor anodd eu cyfieithu?!
>>
>> Ceri
>>
>> Sent using BlackBerry® from Orange
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
>> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary <[log in to unmask]>
>> Date: Wed, 13 Jul 2011 10:28:29
>> To: <[log in to unmask]>
>> Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary <[log in to unmask]>
>> Subject: Re: Engage Base
>>
>> Bore da Ceri
>>
>> Sut uned ydi hi? Dysgu grwp penodol o blant, maes penodol yn y
>> cwricwlwm? Fedra i ddim cael hyd i unrhyw gyfeiriad ar y we, a 'rioed
>> wedi clywed y term o'r blaen (ond mae'n siwr y bydd angen i minnau ei
>> gyfieithu ryw dro, gan fod pethau fel hyn yn tueddu i ehangu!)
>>
>>
>> Sioned
>>
>>
>>
>> On 13 Jul 2011, at 10:21, Ceri Wyn Williams wrote:
>>
>>> Bore da pawb
>>>
>>> Rwyf wedi bod yn pendroni uwchben hwn ers sbel a ddim yn gallu meddwl am
derm addas. Mae ‘Engage Base’ yn cyfeirio at uned yn yr ysgol. Gofynnwyd i
mi gyfieithu’r swydd deitlau canlynol:
>>>
>>> Engage Base Lead Teacher
>>>
>>> Engage Base Teaching Assistant
>>>
>>> Buaswn yn gwerthfawrogi eich awgrymiadau.
>>>
>>> Diolch yn fawr.
>>>
>>> Ceri
>>>
>>> Sent using BlackBerry® from Orange
|