Nac ydy a dyna pam wnes i holi. O gofio beth yw ystyr y term Saesneg, doeddwn i ddim yn rhyw fodlon ar un ohonyn nhw. I mi, fydde 'lleiaf' ddim yn cyfleu hynny, gan mai 'smallest' yw hynny i mi nac 'isaf' chwaith. Falle 'lleiafsymiol' yw'r gore fel yr awgrymodd Sylvia.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 09 June 2011 14:52
To: [log in to unmask]
Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
Mae pum gair am 'minimal' yn GyA ond dydi 'lleiafaint' ddim yn un ohonyn
nhw.
----- Original Message -----
From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, June 09, 2011 2:07 PM
Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
Diolch Sylvia - roeddwn i wedi ystyried lleiafsymiol/lleiaf? Ar ôl gweld
'lleiafaint' gan mod i'n deall mai 'ffonem' yn unig oedd yn newid.
'Lleiafaint' oedd yr unig enghraifft i mi weld ar Google - mae'n bosib bod
mwy, ond dyw Google a fi dim yn ffrindiau mawr!! (A'm helpo!)
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
Sent: 09 June 2011 13:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: minimal pairs - maes datblygiad iaith etc
Roberts, Nia wrote:
> Rwy wedi gweld enghraifft o 'parau lleiafaint' ar Google - ai dyma'r
> gair arferedig yn y maes - therapi lleferydd, datblygiad lleferydd plant
> (neu ddiffyg) etc?
>
> Diolch.
>
Newydd weld y neges hon, Nia. Mae'n ddigon posib mai parau lleiafaint
yw'r gair swyddogol. Fedra i ddim cofio beth roeddwn i'n arfer ei
ddefnyddio ym maes ieithyddiaeth. Dw i yn y gwaith felly does gen i ddim
copi o lyfr ieithyddiaeth Dai Thorne wrth law.
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|