Diolch am yr awgrymiadau!
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, June 07, 2011 4:46 PM
Subject: Re: mentee
Synnwyr cyffredin yn ennill y dydd, Sylvia!!
On 7 Meh 2011, at 09:40, Jones,Sylvia Prys wrote:
> Rhian Huws wrote:
>> Dwi wedi gweld ‘mentai’ yn cael ei ddefnyddio yn rhywle, ond allai ddim
>> dweud mod i’n ei hoffi! Er, mae’n dilyn yr un egwyddor â ‘payee’ ac yn y
>> blaen.
>> Rhian
>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of
>> *Gareth Jones
>> *Sent:* 07 June 2011 09:22
>> *To:* [log in to unmask]
>> *Subject:* mentee
>> Y sawl/Rhywun sy'n cael ei fentora. A all unrhyw un awgrymu ffordd fwy
>> cryno o gyfieithu 'mentee' (gan osgoi brych-eiriau!)? Diolch.
> Mae gair fel hyfforddai wedi ennill ei blwyf ac yn cael ei ddefnyddio'n
> holl naturiol yma yn adran addysg y coleg. Ond efo mentee (a tutee,
> erchyllair arall a fydd yn ymddangos o dro i dro yma yn y coleg) byddwn
> yn defnyddio'r gair myfyriwr - fel rheol mae'r cyd-destun yn dangos yn
> glir mai'r myfyriwr sy'n cael ei fentora/ei diwtora sydd o dan sylw. Os
> yw'r mentora'n digwydd yn y gweithle, yna byddwn yn defnyddio gweithiwr.
> Interviewee yn un arall - gellid defnyddio ymgeisydd neu beth bynnag sy'n
> briodol yn y cyd-destun. Fel arfer mae ffordd o ddatrys y broblem hyd yn
> oed ar ffurflen lle mae gofod yn brin.
>
>
>
> --
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
|