Synnwyr cyffredin yn ennill y dydd, Sylvia!!
On 7 Meh 2011, at 09:40, Jones,Sylvia Prys wrote:
> Rhian Huws wrote:
>> Dwi wedi gweld ‘mentai’ yn cael ei ddefnyddio yn rhywle, ond allai
>> ddim dweud mod i’n ei hoffi! Er, mae’n dilyn yr un egwyddor â
>> ‘payee’ ac yn y blaen.
>> Rhian
>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf
>> Of *Gareth Jones
>> *Sent:* 07 June 2011 09:22
>> *To:* [log in to unmask]
>> *Subject:* mentee
>> Y sawl/Rhywun sy'n cael ei fentora. A all unrhyw un awgrymu
>> ffordd fwy cryno o gyfieithu 'mentee' (gan osgoi brych-eiriau!)?
>> Diolch.
> Mae gair fel hyfforddai wedi ennill ei blwyf ac yn cael ei
> ddefnyddio'n holl naturiol yma yn adran addysg y coleg. Ond efo
> mentee (a tutee, erchyllair arall a fydd yn ymddangos o dro i dro
> yma yn y coleg) byddwn yn defnyddio'r gair myfyriwr - fel rheol
> mae'r cyd-destun yn dangos yn glir mai'r myfyriwr sy'n cael ei
> fentora/ei diwtora sydd o dan sylw. Os yw'r mentora'n digwydd yn y
> gweithle, yna byddwn yn defnyddio gweithiwr. Interviewee yn un
> arall - gellid defnyddio ymgeisydd neu beth bynnag sy'n briodol yn
> y cyd-destun. Fel arfer mae ffordd o ddatrys y broblem hyd yn oed
> ar ffurflen lle mae gofod yn brin.
>
>
>
> --
> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>
> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
> Canolfan Bedwyr
> Prifysgol Bangor/Bangor University
|