Sylvia,
Dwi'n meddwl fod 'medical imaging' yn cyfeirio at y dechnoleg (e.e. MRI)
sy'n cynhyrchu data, a 'visualisation' yn cyfeirio at y dechnoleg (e.e.
meddalwedd) sy'n defnyddio'r data i gyfleu delwedd weledol ar sgrin.
Dafydd
Diolch Dafydd am geisio egluro'r cysyniadau hyn i rywun heb fawr o
gefndir gwyddonol. Edrychais i ar wefan Bangor a gwelais fod enw arall
ar yr uned sef, medical image analysis and visualisation. Yn y diwedd es
i i chwilio yn TermCymru heb fawr o obaith y byddwn yn dod o hyd i
rywbeth perthnasol ond er syndod dois i o hyd i medical image analysis
and visualisation group - grŵp dadansoddi delweddau meddygol a
thechnoleg delweddu. Rydw i wedi hefyd wedi gofyn i'r athro sy'n arwain
yr uned am ddiffiniad fyddai'n ddealladwy i leygwr!
--
Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
|