Ydi pobl yn defnyddio "hoyw" i olygu "gwael", fel y defnyddir "gay" yn Saesneg gan rai? (Gweler gwefan Urban Dictionary http://www.urbandictionary.com/define.php?term=gay)
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 12 May 2011 08:42
To: [log in to unmask]
Subject: "That's so gay"!
Bore da!
All rhywun fy helpu i gyda'r ymadrodd uchod os gwelwch chi'n dda? Rwy'n cyfieithu poster ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia. Mae'r poster yn gofyn i bobl dyngu llw. Un o'r pethau sy'n cael ei ddweud ar y poster yw:
I'm going to ask my friends to stop saying "that's so gay"!
Oes gan unrhyw un syniadau ar ei gyfer os gwelwch chi'n dda? Os nad oes cyfieithiad addas, efallai gallen i newid y frawddeg i rywbeth arall tebyg?
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
Cofion,
Meinir
|