Dyna'r broblem - dw i ddim yn meddwl bod plant Cymraeg yn defnyddio 'hoyw' fel rhan o'u slang bob dydd. Mae'n siŵr eu bod nhw'n defnyddio rhyw derm
difrïol ond dw i'n amau'n fawr mai be fasa plant Caernarfon yn ei ddweud fasa 'Ti mor gay'. Ella fasa athrawon yn gallu helpu.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alison Reed
Anfonwyd/Sent: 12 Mai 2011 10:33
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: "That's so gay"!
http://news.bbc.co.uk/1/hi/7289390.stm
Mae'r erthygl 'ma yn esbonio'r peth dwi'n credu.
Ond beth fyddai disgyblion ysgol neu bobl ifanc yn ei ddefnyddio yn naturiol
yn y Gymraeg tybed? Er bod yr ystyr yn ehangach, efallai mai "hoyw" fydden
nhw'n ei ddefnyddio mewn ymadroddion o'r fath?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 12 May 2011 10:05
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: "That's so gay"!
Dyna'n union o'n i'n feddwl, Claire. Dw i erioed wedi clywed neb yn
defnyddio 'hoyw' fel hyn yn Gymraeg. Felly mae'n beth reit od i'w gyfieithu.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire
Richards
Anfonwyd/Sent: 12 Mai 2011 10:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: "That's so gay"!
Ydi pobl yn defnyddio "hoyw" i olygu "gwael", fel y defnyddir "gay" yn
Saesneg gan rai? (Gweler gwefan Urban Dictionary
http://www.urbandictionary.com/define.php?term=gay)
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 12 May 2011 08:42
To: [log in to unmask]
Subject: "That's so gay"!
Bore da!
All rhywun fy helpu i gyda'r ymadrodd uchod os gwelwch chi'n dda? Rwy'n
cyfieithu poster ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia. Mae'r
poster yn gofyn i bobl dyngu llw. Un o'r pethau sy'n cael ei ddweud ar y
poster yw:
I'm going to ask my friends to stop saying "that's so gay"!
Oes gan unrhyw un syniadau ar ei gyfer os gwelwch chi'n dda? Os nad oes
cyfieithiad addas, efallai gallen i newid y frawddeg i rywbeth arall tebyg?
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
Cofion,
Meinir
|