http://news.bbc.co.uk/1/hi/7289390.stm
Mae'r erthygl 'ma yn esbonio'r peth dwi'n credu.
Ond beth fyddai disgyblion ysgol neu bobl ifanc yn ei ddefnyddio yn naturiol
yn y Gymraeg tybed? Er bod yr ystyr yn ehangach, efallai mai "hoyw" fydden
nhw'n ei ddefnyddio mewn ymadroddion o'r fath?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 12 May 2011 10:05
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: "That's so gay"!
Dyna'n union o'n i'n feddwl, Claire. Dw i erioed wedi clywed neb yn
defnyddio 'hoyw' fel hyn yn Gymraeg. Felly mae'n beth reit od i'w gyfieithu.
Carolyn
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Claire
Richards
Anfonwyd/Sent: 12 Mai 2011 10:01
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: "That's so gay"!
Ydi pobl yn defnyddio "hoyw" i olygu "gwael", fel y defnyddir "gay" yn
Saesneg gan rai? (Gweler gwefan Urban Dictionary
http://www.urbandictionary.com/define.php?term=gay)
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 12 May 2011 08:42
To: [log in to unmask]
Subject: "That's so gay"!
Bore da!
All rhywun fy helpu i gyda'r ymadrodd uchod os gwelwch chi'n dda? Rwy'n
cyfieithu poster ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia. Mae'r
poster yn gofyn i bobl dyngu llw. Un o'r pethau sy'n cael ei ddweud ar y
poster yw:
I'm going to ask my friends to stop saying "that's so gay"!
Oes gan unrhyw un syniadau ar ei gyfer os gwelwch chi'n dda? Os nad oes
cyfieithiad addas, efallai gallen i newid y frawddeg i rywbeth arall tebyg?
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
Cofion,
Meinir
|