Wedi methu darllen pob cyfraniad. 'Dyn ni ar wyliau, ac yn defnyddio
cyfrifiadur ffrind, sy'n gadael digon o amser imi wneud rhyw jobsys bach
eraill wrth aros i ffenestr arall agor - os na fydd y cyfan yn diflannu a
gofyn am gyfrinair eto.
Beth bynnag, o ran "Ec yn y gogledd ac eg yn y de.". gan gofio nad ydym
wedi gweld y drafodaeth flaenorol i gyd, dywed Bruce iddo gael yr argraff
mai yn y gogledd mae pobl yn treiglo wrth gyfarch, a byddai'n disgwyl "Tyrd
yma, gath" ond ""Dere 'ma, cath". Mae o'n cael ei atgoffa hefyd o'r hen
gan, "O gast, 'rwy'n dy garu".
Hwyl am y tro,
Ann
Original Message:
-----------------
From: anna gruffydd [log in to unmask]
Date: Thu, 7 Apr 2011 13:18:47 +0200
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
Dacia! ma gin i Gee *effyl Bach yn mynd rownd a rownd yn y mhen i rwan a
fedra i ddim cael gwarad ag o!!
Anna
2011/4/7 Nia Humphreys <[log in to unmask]>
> Anfarwol!! Dwi’n siwr bydd rhywun yn cael modd I fyw wrth ddarllen y
> cofnodion hyn mewn blynyddoedd I ddod!!
>
>
>
> Nia
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna gruffydd
> *Sent:* 07 April 2011 10:37
>
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: ATB: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
>
>
>
> Gee horsey bach, wel dyma i ni le -
> Ec yn y gogledd ac eg yn y de.
> Sut dylem dy gyfarch sy'n dan ar ein croen.
> O diar, tydi'r treiglada ma'n boen
>
> 2011/4/7 Matthew Clubb <[log in to unmask]>
>
> "Gee, geffyl bach ..." *Hwiangerddi'r Wlad, *Eluned Bebb (1942)
>
>
> ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Alison
> Layland
> *Anfonwyd/Sent:* 07 Ebrill 2011 07:06
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: ATB: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
>
> 'Gee Ceffyl Bach' sydd yn *Caneuon Gwerin i Blant*, Phyllis Kinney a
> Meredydd Evans (1981), hefyd...
>
> A dyna beth dwi wastad wedi cylwed yma ym Maldwyn hefyd.
>
> Alison
>
> On 06/04/2011 16:36, Matthew Clubb wrote:
>
> "Ceffyl" sydd yn 'Caneuon Traddodiadol y Cymry' W S Gwynn Williams 1961;
> oes gan rywun gopi o lyfr Hwiangerddi'r Dref Wen wrth law?
>
>
>
> Ond diddorol gweld bod clustiau rhai ohonom ni yn mynnu cynnwys y treiglad
> cyfarchol er gwaetha'r ffynonellau print - ei fod yn dal yn fyw ac yn iach
> felly. Mae'n ddigon naturiol ar lafar ond yw e? 'Dere 'ma, fach' / 'Isht,
> wnei di, ddyn?'
>
>
> ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
[mailto:[log in to unmask]<[log in to unmask]
.UK>]
> *Ar ran *anna gruffydd
> *Anfonwyd/Sent:* 06 Ebrill 2011 16:00
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: "Gee Ceffyl Bach" neu "Gee Geffyl Bach"?
>
> Ceffyl dwi di'i glwad erioed - mae treiglo'r cyfarchol braidd yn hen ffash
> tydi, ha Feinir?
>
> Anna
>
> 2011/4/6 Meinir Thomas <[log in to unmask]>
>
> Prynhawn da,
>
> Oes rhywun yn gwybod pa un o'r ddau sy'n gywir? Mae fy anti newydd ofyn i
> mi. Mae hi'n gweithio mewn ysgol, ac mae 'na ychydig o ddadlau yno
ynghylch
> pa un sy'n gywir. Mae'n debyg fod y ddau'n ymddangos mewn llyfrau. Rhaid
> cyfaddef, "Gee ceffyl bach" wi erioed wedi dweud. Sai'n credu mod i wedi
> gweld 'Gee geffyl bach" tan i mi wglo'r peth ychydig yn ol!
>
> Cofion,
>
> Meinir
>
>
>
>
>
--------------------------------------------------------------------
mail2web.com – What can On Demand Business Solutions do for you?
http://link.mail2web.com/Business/SharePoint
|