Os chwiliwch chi wefan Gymraeg Cyngor Caerdydd, 'Leckwith Road' mae'n nhw'n ei ddefnyddio ar yr ochr Gymraeg sy'n awgrymu nad oes enw Cymraeg 'swyddogol' arni, ond mae nhw'n cyfeirio at yr ardal ei hun fel Lecwydd.
Wedi dweud hynny, dim ond un Leckwith Road sydd yng Nghaerdydd, felly dwi ddim yn meddwl y byddai ei gyfieithu fel 'Heol Lecwydd' at ddibenion cynhadledd yn drysu neb - ac weithiau mae rhoi'r enw Saesneg yn gallu edrych yn rhyfedd ynghanol dogfen Gymraeg.
Rhian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of [log in to unmask]
Sent: 04 April 2011 13:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Leckwith Road
>enwau sy'n gwbl amlwg a hawdd fel hyn - ond, a ydy o, yn ol y drafodaeth?
Wnaethoch chi ddarllen sylw Catherine Jones yn y rhestr? "Y rheswm dros
hynny yw bod ambell i enw'n gallu peri dryswch e.e. mae Heol y Felin a Mill
Road yn bodoli mewn un ardal o Gaerdydd". Mae Mill Road yn gwbl amlwg a
hawdd hefyd, ond yw?
Mae gen i syniad mai'r Cyngor lleol (Cyngor Bro/Dinas) sydd ag awdurdod yn
hyn o beth. Oddi wrth Gyngor Caerdydd daeth y rhestr.
Ann
Original Message:
-----------------
From: CATRIN ALUN [log in to unmask]
Date: Mon, 4 Apr 2011 12:29:23 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Leckwith Road
Dwi wedi trio hynny Ann - ond methu gweld arwydd!
Teimlo ydw i nad yw'r cyfeiriad fan hyn yn ddim mwy na lleoliad Cynhadledd
(hy
nid yn gyfeiriad gohebu) - ac mae cod post yno beth bynnag.
Dwi ddim wir yn gweld pam na ddylen ni gyfieithu enwau sy'n gwbl amlwg a
hawdd
fel hyn beth bynnag! Mae 10 mlynedd ers 2001 - angen i'r Cynulliad ddeddfu
o
blaid enwau Cymraeg yn unig!!!!
:o)
Catrin
________________________________
From: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, 4 April, 2011 11:52:57
Subject: Re: Leckwith Road
Y cyngor sydd wedi ymddangos yma gwpl o weithiau o'r blaen ydy peidio a
chyfieithu enwau strydoedd Caerdydd os nad ydynt ar ryw restr gyfyngedig
(amgaeedig). 'Rwyf wedi cynnwys y rheswm yn rhan o'r rhestr, ond mae
honno'n mynd yn ol at 2001. Os nad yw'r heol lletchwith 'ma'n un reit
newydd, byddwn i'n gadael yr enw fel y mae (er y gellid mynd yno ar Google
Street View a cheisio cael cip ar yr arwydd).
Ann
Original Message:
-----------------
From: Gwilym Lovgreen [log in to unmask]
Date: Mon, 4 Apr 2011 11:13:10 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Leckwith Road
Lecwydd ydi Leckwith yn Gymraeg ond dwi erioed wedi sylwi ar enw Cymraeg ar
y ffordd.
From: CATRIN ALUN
Sent: Monday, April 04, 2011 10:45 AM
To: [log in to unmask]
Subject: Leckwith Road
Sut mae ffeindio enwau strydodd Cymraeg yng Nghaerdydd plis?!
Ai Heol Leckwith ydy hwn?
--------------------------------------------------------------------
mail2web LIVE – Free email based on Microsoft® Exchange technology -
http://link.mail2web.com/LIVE
--------------------------------------------------------------------
myhosting.com - Premium Microsoft® Windows® and Linux web and application
hosting - http://link.myhosting.com/myhosting
|