Mae'n wir eu bod nhw'n datblygu cyn/ar ol mynd i gysgu am y gaeaf, ac nid yn datblygu dros y gaeaf, ond dwi ddim yn siwr os mai dyna'r term gorau.
'Bywiog' efallai, ond mi fyddwn i'n cymryd hwnnw yn 'lively' (doedd y rhai a welais i'r llynedd ddim yn symud o gwmpas yn arbennig o fywiog yn eu gwe!)
Beth am 'wedi deffro' os yw'r frawddeg yn son am y gwanwyn, neu 'cyn/wedi eu gaeafgwsg'?
Neu 'actif' wrth gwrs?
Dafydd
On Thu, 27 Jan 2011 12:24:23 -0000, Huw Tegid <[log in to unmask]> wrote:
>Bioleg oedd fy mhwnc gwannaf yn yr ysgol yn bendant, felly fyddwn i ddim dicach os dywedwch chi fod 'datblygu' yn gamarweiniol neu'n rhy benagored, ond tybed a fyddai dweud eu bod nhw'n datblygu yn un ffordd o gyfleu'r 'active', hyd yn oed os ydyn nhw'n cysgu neu'n ddigon disymud yn ystod y cyfnod hwn?
>�
>Cofion gorau,
>�
>Huw
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>Sent: 27 Ionawr 2011 11:58
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: active larvae
>
>Diolch Geraint
>Na - maen nhw'n mynd i aeafgysgu wedyn.
>Beth am "bywiog"? - er dw i ddim yn gwybod pa mor fywiog ydyn nhw,
>chwaith
>Wnes i feddwl am "effro" hefyd ond mae'n siwr eu bod nhw'n cysgu
>weithiau
>
>Diolch
>
>Si�n
>On 27 Ion 2011, at 11:51, Geraint Lovgreen wrote:
>
>> byw?
>>
>> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts"
>> <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Wednesday, January 26, 2011 10:25 PM
>> Subject: active larvae
>>
>>
>> Beth yw'r gair am "active" wrth sôn am larfâu gloynnod byw?
>>
>> Fe wnes i holi'r cwsmer beth oedd "active": "Active in this
>> context means the larva were present and doing whatever Marsh
>> Fritillary butterfly larva �?~do�?T (i.e. eat a lot and hang around
>> in large groups".
>>
>> Alla i ddim meddwl am yr union air.
>>
>> Diolch eto
>>
>> Siân
|