Ie, rwyf wedi defnyddio'r term 'hysbysrwydd' am 'intelligence' yn reit aml yn y gorffennol (e.e. swyddog hysbysrwydd - gan fod angen gwahaniaethu rhwng 'information officer' ac 'intelligence analyst' a swyddi tebyg).
On Wed, 12 Jan 2011 21:32:40 -0000, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>ie, math gwahanol o "intelligence" ydi deallusrwydd.
>
>----- Original Message -----
>From: "Rhian Huws" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Wednesday, January 12, 2011 8:05 PM
>Subject: Re: intelligence
>
>
>I mi mae 'deallusrwydd' yn awgrymu 'dealltwriaeth rhywun o wybodaeth'. Nid
>dyma sydd dan sylw yma, ond yn hytrach y ffordd y caiff gwybodaeth ei chreu
>o ystadegau iechyd ac ati.
>
>Ar �l hir bwyso a mesur (ac edrych ar TermCymru hefyd), dwi wedi penderfynu
>cadw at 'gwybodaeth' ac yna awgrym Geraint pan fydd 'health intelligence and
>information' yn ymddangos gyda'i gilydd.
>
>Diolch i bawb am eu cymorth
>
>Rhian
>
>-----Original Message-----
>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis
>Sent: 12 January 2011 19:58
>To: [log in to unmask]
>Subject: Re: intelligence
>
>Rwy'n ffafrio 'deallusrwydd' am 'intelligence', a 'gwybodaeth' am
>'information'.
>
>Mae'r drafodaeth am y gwahaniaeth rhwng
>'knowledge/information/data/wisdom/intelligence' ac ati wedi parhau yn
>Saesneg hefyd ers blynyddoedd - yn enwedig ymysg llyfrgellwyr! Mi fu
>trafodaeth fer ar y termau ar y fforwm hon ychydig flynyddoedd yn ôl.
>
>Dafydd
>
>
>On Wed, 12 Jan 2011 11:03:09 -0000, Rhian Huws <[log in to unmask]>
>wrote:
>
>>Bore da
>>
>>Tybed all rywun helpu? Dwi wrthi�n prawfddarllen darn o waith.
>>
>>
>>
>>Maes iechyd yw�r cyd-destun, ac yn benodol dadansoddi data a thystiolaeth
>>a�i droi�n �intelligence� � h.y. cynhyrchu rhywbeth sy�n dangos
>beth yw
>>arwyddocad y data a�r dystiolaeth i iechyd.
>>
>>
>>
>>Y pennawd yw:- Transforming data and evidence into public health
>>intelligence a�r cyfieithiad yw �Trawsnewid data a thystiolaeth yn
>>ddeallusrwydd iechyd cyhoeddus�
>>
>>
>>
>>Mae �cudd-wybodaeth� yn swnio braidd yn amhriodol yn y cyd-destun hwn,
>ac
>>falle dyna pam y denfyddiodd y cyfieithydd �deallusrwydd�, ond mae�n
>fy
>>nharo i braidd yn chwithig.
>>
>>
>>
>>Yn ddiolchgar am unrhyw gynigion
>>
>>
>>
>>Cofion
>>
>>
>>
>>Rhian
>>
>>
>>
>>Noder y manylion cyswllt newydd isod.
>>
>>Please note new contact details below.
>>
>>
>>
>>Rhian Huws
>>
>>Cwmni Cyfieithu Canna Translation Services
>>
>>47 Mayfield Avenue, Parc Victoria Park, Caerdydd/Cardiff, CF5 1AL
>>
>>E-bost/E-mail: [log in to unmask] / [log in to unmask]
>>
>>Ff�n/Tel: 02920 554567 / 0781 1107492
>>
>>www.cwmnicanna.co.uk / www.cannatranslations.co.uk
>>
>>
>>
>>
|