A pam ceisio osgoi'r cyplysnod? Rhywbeth arall sy'n dân ar fy nghroen. A fydd unrhyw atalnodi ar ôl yn y dyfodol?
Paul
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 13 January 2011 14:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: pen blwydd / pen-blwydd
O neges gan Andrew Hawke o Eiriadur Prifysgol Cymru ar 8.10.10 "Rydym
wedi dewis 'ar lein' a 'pen blwydd' (yn gam neu'n gymwys), gan geisio
osgoi'r cyplysnod ond pan fydd rhaid ei gynnwys."
Siân
On 13 Ion 2011, at 14:06, Gwenda Lloyd Wallace wrote:
> pen blwydd sy gan D. Geraint Lewis yn 'Geiriadur Gomer i'r Ifanc'
> ac mae pen-blwydd a pen blwydd yn Geiriadur yr Academi ...
>
> On Thu, 13 Jan 2011 13:14:44 -0000 , Geraint Lovgreen
> <[log in to unmask]> wrote:
>> Cytuno'n llwyr efo hyn (heblaw fy mod wedi penderfynu bod anrheg
>> yn wrywaidd ac felly'n osgoi'r broblem wreiddiol yn gyfan gwbl)
>> (ac mai penblwydd ydi'r gair ac nid pen-blwydd!)
>>
>> Geraint
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Thursday, January 13, 2011 1:07 PM
>> Subject: Re: ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>>
>>
>> Yn bersonol, anrheg ben-blwydd, ffrog briodas, Cymdeithas Bêl-droed,
>> Neuadd Ddawns a gardd gwrw sy'n dod yn naturiol i mi.
>>
>> Mae gwahaniaeth rhwng Gorsaf Fysiau Caerfyrddin a Gorsaf Bysiau
>> Caerfyrddin
>>
>> Ddoe ddiwetha, fe ddes i ar draws enghraifft lle'r oedd dwy swyddfa
>> yn yr un adran yn gwahaniaethu - un yn dweud "Adran Gynllunio" a'r
>> llall yn dweud "Adran Cynllunio". Rwy'n deall y rhesymeg dros y ddau
>> ond byddwn yn dewis y cyntaf yn reddfol.
>>
>> On 13 Ion 2011, at 12:54, Jones,Sylvia Prys wrote:
>>
>>> Carolyn wrote:
>>>> Os meddyliwch chi am 'anrheg dda' ac 'anrheg p/ben-blwydd' - i fi,
>>>> mae 'na wahaniaeth bach rhwng y gwaith mae'r 'da' yn ei wneud a'r
>>>> gwaith mae'r 'pen-blwydd' yn ei wneud. Ond bosib mai'r ffaith mai
>>>> enw yw pen-blwydd sy'n gyfrifol am greu'r argraff honno a dw i'n
>>>> barod i dderbyn barn rhai sy'n gwybod yn well. Mae'n amlwg bod
>>>> cryn ansicrwydd ynglŷn â hyn - does ond angen edrych ar enwau
>>>> adrannau cyrff cyhoeddus Cymru/Prifysgolion ac ati i weld nad oes
>>>> ateb syml.
>>>> Carolyn
>>>> -------------------------------------------------------------------
>>>> --
>>>> ---
>>> Mae hynny'n berffaith wir, Carolyn. Does yna ddim cysondeb yn y
>>> sefydliad yma, rhwng pethau fel Swyddfa Gyllid / Swyddfa Cyllid,
>>> Credaf mai'r ail sy'n gywir (nes ati?) Ond yn bersonol dw i ddim yn
>>> teimlo bod llawer o ots. Mae pobl yn defnyddio'r glust i dreiglo,
>>> heb fynd ati i ddadansoddi ac felly fydd yna ddim cysondeb llwyr.
>>> --
>>> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>>>
>>> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
>>> Canolfan Bedwyr
>>> Prifysgol Bangor/Bangor University
>
>
>
> --
>
>
> Gwenda Lloyd Wallace
> Cyfieithydd/Translator
> Troed-y-rhiw
> Cefn-llwyd
> Aberystwyth
> Ceredigion
> Cymru/Wales
> SY23 3HX
>
> Ffon/Tel: 01970 880817
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]
All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]
Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************
|