pen blwydd sy gan D. Geraint Lewis yn 'Geiriadur Gomer i'r Ifanc' ac mae pen-blwydd a pen blwydd yn Geiriadur yr Academi ...
On Thu, 13 Jan 2011 13:14:44 -0000 , Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
>Cytuno'n llwyr efo hyn (heblaw fy mod wedi penderfynu bod anrheg yn wrywaidd ac felly'n osgoi'r broblem wreiddiol yn gyfan gwbl) (ac mai penblwydd ydi'r gair ac nid pen-blwydd!)
>
>Geraint
>
>----- Original Message -----
>From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Thursday, January 13, 2011 1:07 PM
>Subject: Re: ATB: Anrheg ben-blwydd neu anrheg pen-blwydd?
>
>
>Yn bersonol, anrheg ben-blwydd, ffrog briodas, Cymdeithas Bêl-droed,
>Neuadd Ddawns a gardd gwrw sy'n dod yn naturiol i mi.
>
>Mae gwahaniaeth rhwng Gorsaf Fysiau Caerfyrddin a Gorsaf Bysiau
>Caerfyrddin
>
>Ddoe ddiwetha, fe ddes i ar draws enghraifft lle'r oedd dwy swyddfa
>yn yr un adran yn gwahaniaethu - un yn dweud "Adran Gynllunio" a'r
>llall yn dweud "Adran Cynllunio". Rwy'n deall y rhesymeg dros y ddau
>ond byddwn yn dewis y cyntaf yn reddfol.
>
>On 13 Ion 2011, at 12:54, Jones,Sylvia Prys wrote:
>
>> Carolyn wrote:
>>> Os meddyliwch chi am 'anrheg dda' ac 'anrheg p/ben-blwydd' - i fi,
>>> mae 'na wahaniaeth bach rhwng y gwaith mae'r 'da' yn ei wneud a'r
>>> gwaith mae'r 'pen-blwydd' yn ei wneud. Ond bosib mai'r ffaith mai
>>> enw yw pen-blwydd sy'n gyfrifol am greu'r argraff honno a dw i'n
>>> barod i dderbyn barn rhai sy'n gwybod yn well. Mae'n amlwg bod
>>> cryn ansicrwydd ynglŷn â hyn - does ond angen edrych ar enwau
>>> adrannau cyrff cyhoeddus Cymru/Prifysgolion ac ati i weld nad oes
>>> ateb syml.
>>> Carolyn
>>> ---------------------------------------------------------------------
>>> ---
>> Mae hynny'n berffaith wir, Carolyn. Does yna ddim cysondeb yn y
>> sefydliad yma, rhwng pethau fel Swyddfa Gyllid / Swyddfa Cyllid,
>> Credaf mai'r ail sy'n gywir (nes ati?) Ond yn bersonol dw i ddim yn
>> teimlo bod llawer o ots. Mae pobl yn defnyddio'r glust i dreiglo,
>> heb fynd ati i ddadansoddi ac felly fydd yna ddim cysondeb llwyr.
>> --
>> Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
>>
>> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
>> Canolfan Bedwyr
>> Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Gwenda Lloyd Wallace
Cyfieithydd/Translator
Troed-y-rhiw
Cefn-llwyd
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru/Wales
SY23 3HX
Ffon/Tel: 01970 880817
|