Pwy newidiodd 'anrheg' i 'anrhag' yn nhestun y negeseuon?!
Ydw i'n pasio'r prawf am sylwi?!
Gyda llaw - neu dwi'n ddefnyddio! Er siwr o fod mod i'n dweud 'ta ar lafar!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 13, 2011 11:07 AM
Subject: Anrhag ben-blwydd
Ar lafar neu ar ddu a gwyn, dylem geisio'n gorau: iaith yw ein ffon fara ni,
ac os na allwn ninnau gynnal safon, a'n helpo ni, ac a helpo'r rhai yr ydym
yn eu gwasanaethu! Parthed aelodau newydd, dywedwn eto na ddylai’r sawl sy'n
ofni beirniadaeth deg fentro gofyn cyflog am wneud y gwaith. Wir, yr ydym
fel petaem ni'n esgusodi Cymraeg gwael lle nad esgusodem Saesneg gwael,
oherwydd bod Cymraeg cymaint o bobl cyn saled. Nid llacio'r safon yw'r ateb,
ond hyrwyddo defnyddio Cymraeg rhywiog, pob cyfle.
Am y ddadl "Dwi'm yn defnyddio 'ynteu', felly mae wedi darfod amdano", mae
lle i ddiolch nad unigolion sy'n pennu tynged geiriau. Gwyn fy myd pe gallwn
innau wahardd defnyddio llediaith tebyg i "marw allan", chwedl gohebydd
arall ar y pwnc hwn.
|