Wrth gyfieithu ffurflenni yn ddiweddar sylwais fod anghysondeb rhwng cyfieithwyr yn eu defnydd o fyrfoddau am dermau swyddogol, ymysg yr enghreifftiau sydd ar gael ar y we beth bynnag.
Yn aml, defnyddir byrfoddau Saesneg er i'r termau eu hunain fod yn Gymraeg - e.e. ar Gwgl, mae 10 enghraifft o ‘cymhorthdal incwm (CI)’ ond 90 o ‘cymhorthdal incwm (IS)’; a 115 enghraifft o ‘lwfans ceisio gwaith (LCG)’ ond 140 o ‘lwfans ceisio gwaith (JSA)’.
Oes canllawiau? Beth yw'r rheswm dros defnyddio byrfoddau Saesneg yn hytrach na'r rhai Cymraeg wrth drafod termau swyddogol fel hyn?
Dafydd
|