Wrth gyfieithu ffurflen gais dyma fi’n reddfol yn defnyddio ‘ydwyf/nac ydwyf, ydynt/nac ydynt’ ac yn y blaen, fel atebion posib i gwestiynau. Ond erbyn edrych ar ffurflenni sydd eisoes wedi’u cyfieithu (ar y we) mae’n amlwg fod cyfran helaeth yn defnyddio ‘ydw/nac ydw, ydyn/nac ydyn’. Mi benderfynais innau ddefnyddio’r termau llai ffurfiol hynny yn y diwedd.
Mae hefyd yn ymddangos nad oes angen poeni gormod ynglyn â bod yn ‘ramadegol’ gywir ym mhob achos, rhag creu dogfen gymhleth – e.e. os dylai’r atebion i ‘ydych chi neu eich partner yn...?’ fod yn ‘ydw/ydy/ydym/ - nac ydw/nac ydy/nac ydym’ mae nifer o ffurflenni wedi dewis defnyddio dim ond ‘ydym / nac ydym’ (a dyna wneuthais innau).
Cwestiwn syml efallai, ond ym mha fath o ffurflen y dylid defnyddio’r termau llai ffurfiol, a pha bryd y dylid defnyddio’r rhai mwy ffurfiol? Oes na ganllawiau o unrhyw fath, neu oes gan rhywun unrhyw sylwadau ar y mater yn gyffredinol?
Dafydd
|