Lyfli!
Diolch yn fawr
On 16 Medi 2010, at 12:04, Claire Richards wrote:
> Dwi'n meddwl mai'r system sy'n fyd-eang, a barnu o'r diffiniad hwn
> "GPS refers to the general existence and functionality of the use
> of a global network of satellites in earth orbit dedicated to
> broadcasting microwave signals that can be received by ground and
> air-based receivers for the purpose of establishing geographical
> locations expressed in both coordinate or longitudinal/latitudinal
> values and elevation data."
>
> Claire
>
> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
> Behalf Of Siān Roberts
> Sent: 16 September 2010 11:51
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Global Positioning System (GPS)[Spam score: 8%][Scanned]
>
> Ie, roeddwn i wedi gweld neges Ann. Roedd hi'n dweud mai un
> enghraifft o "System Lleoli" oedd i'w gweld ar y we ar y pryd ond
> erbyn hyn mae llawer iawn ohonynt. Meddwl oeddwn i tybed a yw
> "system lleoli byd-eang" wedi ennill ei blwyf erbyn hyn - ac mai dyna
> sydd fwyaf cywir os mai'r lleoli sy'n fyd-eang yn hytrach na'r system.
>
> Diolch
>
> Siān
>
> On 16 Medi 2010, at 11:44, Claire Richards wrote:
>
>> Mae cwpl o negeseuon am hyn yn yr archifau, a dywed Ann Corkett yn
>> un ohonynt
>>
>> "O chwilio'r We dan "System Lleoli", un enghraifft - System
>> Lleoli'n Ddaearyddol
>> O chwilio dan "System Leoli", sawl enghraifft, y rhan fwyaf gan yr
>> Arolwg Ordnans - System Leoli Fyd-eang
>>
>> Felly mi a i efo'r ail."
>>
>> Wrth gwrs, Geographical Positioning System fyddai'r cyntaf. Mae
>> 'na'r fath beth - 84,300 o enghreifftiau ar y we.
>>
>> Claire
>>
>>
>> -----Neges Wreiddiol/Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On
>> Behalf Of Sian Roberts
>> Sent: 16 September 2010 11:28
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Global Positioning System (GPS)
>>
>> Erbyn hyn, o chwilio am "gps system leoli" a "gps system lleoli",
>> mae llawer mwy o enghreifftiau o "system lleoli byd-eang".
>> Rwy'n teimlo mai hwnnw sy'n fwyaf cywir hefyd am mai'r "lleoli"
>> sy'n "fyd-eang" yn hytrach na'r "system". Ie?
>>
>> Diolch
>>
>> SiĆ¢n
|