Siân - Dwn i ddim beth ddigwyddodd i'r testun, ond dyma'r neges eto!
Dafydd
Penrhyn Llŷn fyddai orau efallai, megis disgrifiad daearyddol.
Magwyd fi yn Llanaelhaearn yng nghysgod Tre'r Ceiri, sef y mynydd nesaf at 'yr Eifl'. Yr Eifl yw'r canol o'r tri copa sydd fel petaent yn gwarchod mynediad i Ben Llŷn.
Hanner can mlynedd yn ôl beth bynnag, roedd 'mynd am dro i Ben Llŷn' yn golygu teithio i rywle yr ochr arall i Forfa Nefyn neu Edern, a 'gwlad Llŷn' yn awgrymu'r tir gwastad amaethyddol a'r heolydd bach troellog i'r gorllewin o Edern.
Mae Llanaelhaearn mewn rhyw fath o dir neb, doeddem ni erioed yn hollol sicr a oedd y pentref yn rhan o Ben Llŷn ynteu o Arfon, ynteu o Eifionydd. Os yw'r Eifl yn borth i Ben Llŷn, mae'n rhaid ei fod hefyd yn borth wrth fynd allan o Lŷn, h.y. i Arfon. Ar y llaw arall, mae colofn ar helyntion Llanaelhaearn i'w chael heddiw ym mhapur bro Eifionydd, ac wrth fod plant hŷn y pentref yn mynd i ysgolion Pwllheli mae rhan 'ysbrydol' o'r pentref yn y fro honno, er ei fod ar wahan i Eifionydd yn ddaearyddol.
Dafydd
====
"Yr Eifl’s central summit is the highest point on the Llŷn Peninsula"
Mae GyrA yn rhoi Pen Llŷn am Llŷn Peninsula ond mae arna i ofn sathru ar gyrn pobl Pen Llŷn - roedd rhywun ar Taro'r Post yr wythnos ddiwetha yn dweud nad oedd Llanbedrog, hyd yn oed, ym Mhen Llŷn - heb sôn am yr Eifl!
Fyddwn i'n saff i ddweud "ar Benrhyn Llŷn"?
Diolch
Siân
|