Tybed ym mha fodd y gellir dweud bod sustem yn ddibynadwy os yw hi'n bosib y
bydd problemau yn codi?
'Annibynadwy' y byddwn ni'n ei ddefnyddio pan fydd y bobl gyfrifiadura yma
yn wara â'r sustem. Mae 'dan fygythiad' neu 'mewn perygl' (neu 'dan risg' am
wn i) yn swnio yn gyffrous iawn, fel petai rhyw argyfwng mawr neu fod rhyw
ymosodiad ar droed.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Gwen Rice
Anfonwyd/Sent: 16 Mawrth 2010 10:31
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: at risk
Cyd-destun technegol pan fo gwasanaeth cyfrifiadurol yn rhedeg "at risk".
Fe'i cyfieithwyd gan gwmni allanol fel "yn annibynadwy", ond dyw'r
arbenigwyr technegol ddim o'r farn bod hwn yn gyfieithiad addas ac maent
eisiau barn am "mewn perygl" (neu, wrth gwrs, derm cwbl wahanol). Oes gan
unrhyw un sy'n deall y pethau 'ma farn? Tybed a fyddai "dan risg" neu
rywbeth tebyg yn datrys hyn?
O ran ystyr, does dim perygl fel y cyfryw ac, er y gallai problem / risg
godi, mae'n bosib iawn na fydd y system yn annibynadwy o gwbl.
Diolch yn fawr ymlaen llaw.
Gwen
|