On Dec 02, 2009, Symons, David wrote:
> Ond i mi, mae 'eglurdeb' yn golygu 'definition', sydd, o ran delwedd ddigidol boed ar set deledu neu lun camera, yn gyfystyr ? 'resolution'.
Mae S4C yn defnyddio 'manylder' am resolution ond hefyd am
definition. Yn y byd digidol, mae lluniau yn cael ei cywasgu,
felly does dim perthynas rhwng resolution a ansawdd y llun.
Fe allwch chi gael llun HD sydd yn aneglur a 'heb fanylder' oherwydd
ei fod wedi gywasgu yn ormodol.
Mae manylder i fi yn awgrymu faint o 'ddiffiniad' sydd yn y llun -
faint o fanylion sydd i'w weld. A mae eglurdeb yn eitha amlwg - pa
mor eglur yw'r llun?
Mae'r ddau yn dermau ansoddol - mae eglurdeb a manylder llun yn
dibynnu ar nifer o ffactorau - pa mor dda yw'ch golwg, a be sy'n
dderbyniol i chi, yn ogystal a safonau technegol. Mae cydraniad felly
yn ystyr fwy technegol sy'n disgrifio union faint o bicseli sydd mewn
delwedd. Mi fydden i wedi dweud bod 'rhaniad' efallai yn well am ei
fod yn eitha clir yn disgrifio faint o rannau (llinellau) sydd mewn
delwedd. Ond mae cydraniad allan yna yn barod mewn nifer o lefydd..
|