Siarad yn synrhywiol ?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 30 November 2009 19:49
To: [log in to unmask]
Subject: talking sense
Ydi hi'n iawn dweud "siarad synnwyr" am "talking sense"?
Angen cyfieithu strapline "talking sense about sex".
Ro'n i wedi cynnig "trafod rhyw yn synhwyrol" - meddwl bod "trafod" yn
ychwanegu rhyw
elfen ychwanegol at y "siarad" - ond mae'r cwsmer wedi trafod gyda
chyfeillion o Gymry ac
mae'n well ganddyn nhw "siarad synnwyr am ryw".
"siarad yn gall/synhwyrol" sydd yn GyrA.
Dydw i ddim eisiau gwrthod "siarad synnwyr am ryw" os yw e'n dderbyniol.
Mae Gwgl yn
dod o hyd i sawl enghraifft ond, hyd y gwela i, dyfyniad o Cysgod y Cryman -
Edward
Vaughan yn siarad â Henri - yw'r unig un 'safonol'. Mae'r lleill yn dod o
flogs ac ati a gan
ddysgwyr.
Mae'r cwsmer yn chwilio am rywbeth "snappy' - felly mae "siarad yn synhwyrol
am ryw"
mas ohoni.
Fe allwn i gynnig "siarad sens am secs" sbo!
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.426 / Virus Database: 270.14.87/2536 - Release Date: 11/30/09
07:31:00
|