Drwy garedigrwydd Eleri Sparnon Jones o'r Gofrestrfa Tir, mae rhagor o
wybodaeth wedi dod i'r amlwg.
Un o Lansamlet yw mam-gu Eleri, ac mae hi'n gyfarwydd â 'Tylalawdy' ond
ddim yn hollol sicr o'r ystyr. Mae'n credu mai disgrifiad o rywun a fyddai'n
gwneud rhywbeth heb ystyried gormod am y peth yw e.
Daeth yr ymholiad â phennill bach i gof iddi hefyd:
'Llansamlet Tylalawdy
Morriston Monkeys
Clydach Dull Donkeys
Swansea Good Boys'
|