Dafydd Tomos wrote:
> Mae 'peiriant cyfieithu' Tranexp wedi bod ar y we ers blynyddoedd
> lawer bellach ac yn gyfrifol am rhan fwyaf o'r cam-gyfieithiadau
> sydd wedi ymddangos ar arwyddion a taflenni.
>
> Mae nhw'n gyfrifol felly am wastraffu arian pan fod angen cywiro
> arwyddion wedi eu cam-gyfieithu.
>
> Dyw e ddim yn joc bellach, yn enwedig wrth weld rhai cyrff cyhoeddus
> yn ei ddefnyddio ar gyfer cyfieithiadau 'syml' (pan mae pobl yn trio
> osgoi mynd trwy system gyfieithu 'swyddogol' a biwrocrataidd).
>
> Er enghraifft, dyma enghraifft gan Gyngor Caerdydd o 2007
>
> http://www.flickr.com/photos/dafydd/478568848/
>
> Mae nifer o bobl wedi trio darbwyllo y cwmni sy'n gyfrifol am y
> meddalwedd ei fod yn warthus a cwbl annibynnadwy a wnes i ofyn i Fwrdd
> yr Iaith i weld os oedden nhw yn gallu gwneud unrhywbeth ynglyn a'r
> peth hefyd.
>
> Hyd yn os nad yw'n bosib cael y cwmni i dynnu'r peth lawr o'r we,
> mi fasech chi'n disgwyl fyddai cyrff cyhoeddus yn gwybod erbyn
> hyn i beidio a'i ddefnyddio, a fe ddylai cwmniau preifat (yng
> Nghymru o leia) wybod lle i fynd i gael cyfieithiadau safonol.
>
> Mae Bwrdd yr Iaith wedi methu yn y dasg o addysgu busnesau (a
> chynghorau yn amlwg), a dwi ddim yn gweld be mae Cymdeithas y
> Cyfieithwyr wedi gwneud chwaith. Os nad yw'r cyrff yma wedi llwyddo i
> newid pethau mewn degawd, pa obaith sydd i unrhywun arall?
Mi fydda i'n cynnal unrhyw egni i'w gorfodi peidio a thrallodi
eu cwsmeriaid efo cyfieithiaidau mor wirion. Mi adeiladasan nhw eu
peiriant ar sail fy ngeiriadur. Ni chefais erioed fy narbwyllo y byddai
eu peiriant yn cynhyrchu cyfieithiadau addas, ac roeddwn i fy llygad
ei le. Yn ychwaneg, ni chefais i'r un lles oddi wrthynt; dim tal, dim.
Mae'n debyg y bydd rhaid eu gwasgu efo achos cyfreithiol i gael effaith.
Yn anffodus, does gen i dwrnai i'w ymlid. Mi fyddwn i'n ddiolchgar
am unrhyw awgrymiadau am sut medra i fynd ymlaen. Os oes casgliad
enghreifftiau o gamcyfieithiadau sy'n olrheiniadwy i'w peiriant,
mi fyddai hynny'n ddefnyddiol yn ddiamau.
--Mark
|