Beth sy'n gwneud i mi chwerthin gyda'r hen ddadl 'na ynghylch enwau gwledydd yw'r datganiad yng nghanllawiau Bwrdd yr Iaith:
"Mewn amryw eiriau benthyg a ffurfiau rhyngwladol ar enwau gwledydd rhaid derbyn a chydnabod arwyddion orgraffyddol a chlymau cytseiniol anghyfarwydd"
Rhaid? Pwy sy'n gweud?
Hefyd y syniad 'ma taw'r enwau Saesneg yw'r 'ffurfiau rhyngwladol' - (Corée - Ffr.; Corea - Sb.; Coréia - Port.; Corea - Eid.; Kore - Llyd.; An Chóiré - Gwydd.) - meddyliwch am yr hen ieithoedd drwg hynny nad ydynt yn cydymffurfio â "rhaid" Bwrdd yr Iaith. Yn hytrach maent i'w gweld yn cydymffurfio â thraddodiadau orgraffyddol eu hieithoedd eu hun.
Yn fy mhrofiad i, mae'n go ddryslyd i blant ddod ar draws ffurf fel 'China' wrth ddarllen testun Cymraeg:
'yn ... China'
'Tsieina'
'ond ma'n dweud ... China'
'Ie, wel, maen nhw wedi'i sillafu yn Saesneg.'
'Ond pam?'
Dyn a ŵyr.
Mae angen rhestr safonol o'r enwau 'ma - ac mae un gennym ni ers 15 mlynedd, bron, sef Geiriadur yr Academi - wedi'i olygu gan ddau ysgolhaig go ddeche, wedi'i gyhoeddi gan Wasg y Brifysgol. Gwnaiff y tro imi.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 14 Awst 2009 10:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Safoni Termau Wici
Erthygl yma (http://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Y_Caffi#Safoni_termau_Wici) a all fod o ddiddordeb i ni. (Heb ei darllen yn fanwl eto)
Hwyl
Siân
|