I mi, 'sodli' yw cerdded yn rhy agos y tu ôl i rywun fel eich bod yn
damsgen eu sawdl nhw - profiad sy'n dipyn o niwsans ar y gorau ac yn
gallu bod yn dra phoenus. Nid yr argraff y mae rhywun am ei roi fan
hyn.
Aha! mae GPC yn cytuno â mi:
Mae'n gallu golygu "bod ar sodlau rhywun", "sathru â'r sawdl",
"sathru ar sodlau rhywun", "baglu rhywun", "gyrru gwartheg trwy
snapio wrth eu sodlau", a "chymryd y goes".
Sawr negyddol sydd i'r rhain i gyd.
Siân
On 26 Jun 2009, at 08:17, Smith,Helen Kalliope wrote:
> Mae un o'n staff ni yng Nghanolfan Bedwyr wedi bathu'r term 'sodli'
> ers tro - beth amdani?
>
> Helen
>
> Ann Corkett wrote:
>> Mae hyn yn ymddangos mewn rhestr o swyddogion a oedd yn bresennol
>> mewn cyfarfod: “X (shadowing the Y Officer)”
>> Cyfeirir at hyn yn aml yn Saesneg fel “job shadowing” sef, dysgu
>> am y swydd trwy ddilyn y swyddog o gwmpas (am a wn i). Gwelaf
>> sawl enghraifft o “cysgodi” yn Google ond, fel mae Bruce yn dweud,
>> dylai hyn olygu “sheltering/casting a shadow over someone”.
>> Gallaf roi rhywbeth fel “yn dilyn X/yn sgil X” neu “yn dysgu wrth
>> esiampl X”, ond ‘dydyn nhw ddim yn swnio’n foddhaol iawn a hoffwn
>> wybod a arferir rhywbeth gwell eisoes?
>> Diolch yn fawr iawn,
>> Ann
>
>
> --
> Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
> Canolfan Bedwyr
> [log in to unmask]
> Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
> est/ext 3253 (mewnol/internal)
>
> >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^< >^..^<
>
> --
> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
> hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
> bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
> 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
> nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
> rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
> Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk
>
> This email and any attachments may contain confidential material and
> is solely for the use of the intended recipient(s). If you have
> received this email in error, please notify the sender immediately
> and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you
> must not use, retain or disclose any information contained in this
> email. Any views or opinions are solely those of the sender and do
> not necessarily represent those of the Bangor University.
> Bangor University does not guarantee that this email or
> any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless
> expressly stated in the body of the text of the email, this email is
> not intended to form a binding contract - a list of authorised
> signatories is available from the Bangor University Finance
> Office. www.bangor.ac.uk
|