Ynteu ydyn nhw'n golygu eu bod nhw, e.e., yn canolbwyntio eu hymdrechion lle
mae eu hangen fwyaf, yn lle gwneud ychydig dros bawb? Dyna oedd yn gwneud
imi feddwl am "anelu" - defnyddio un bwled yn lle tasgu dros bobman fel gwn
haels.
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 14 May 2009 10:23
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: focused / more focused
Ydyn nhw'n golygu bod y gwasanaethau'n gwneud eu gwaith yn fwy trylwyr/yn
fwy trwyadl/yn canolbwyntio mwy ar y gwaith dan sylw/yn canolbwyntio mwy ar
eu tasgau?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 14 Mai 2009 09:19
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: focused / more focused
Ym mha gyd-destun fyddet ti'n dweud 'canolbwyntiol'?
Allet ti ddim dweud "Mae Helen yn ferch ganolbwyntiol" na "Dwi'n
ganolbwyntiol" nac "11
ffordd o fod yn ganolbwyntiol yn y gwaith" a dw i ddim yn siwr a fyddai
"Mae'r rhain yn
wasanaethau canolbwyntiol" yn gwneud synnwyr chwaith.
Goleua fi!
|