Neu ei bod yn canolbwyntio ar ei gwaith? Y broblem yw'r ffordd mae
'focussed' yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg - mae'n cael ei ddefnyddio fel
petai'n gyflawn ynddo'i hun - y gwir yw - mae'n gwbl ddiystyr. Mae camera'n
focused am ei fod yn 'focussed 'ar y gwrthrych mae'n tynnu ei lun tydi? Dydy
'more focussed services' yn golygu dim heb wybod ar be mae'r 'ffocws'!
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 14 Mai 2009 09:31
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: focused / more focused
Na, ond faswn i ddim yn dweud "Helen is a focussed girl" ac ati chwaith -
beth mae'n ei olygu?
Ond mi allwn i ddweud ei bod yn gweithio mewn modd canolbwyntiol (petai raid
! )
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 14, 2009 10:19 AM
Subject: Re: focused / more focused
Ym mha gyd-destun fyddet ti'n dweud 'canolbwyntiol'?
Allet ti ddim dweud "Mae Helen yn ferch ganolbwyntiol" na "Dwi'n
ganolbwyntiol" nac "11
ffordd o fod yn ganolbwyntiol yn y gwaith" a dw i ddim yn siwr a fyddai
"Mae'r rhain yn
wasanaethau canolbwyntiol" yn gwneud synnwyr chwaith.
Goleua fi!
|