Hyfryd!
Dw i'n meddwl mai "bacse brain" roedd mam yn ei ddweud - ardal Ceinewydd - ac roedd "sane'r gwcw" yn gyfarwydd i mi hefyd - Pencader.
Diolch yn fawr iawn
Siān
--- On Wed, 4/2/09, Alwyn Evans <[log in to unmask]> wrote:
> From: Alwyn Evans <[log in to unmask]>
> Subject: Re: bluebells
> To: [log in to unmask]
> Date: Wednesday, 4 February, 2009, 10:02 AM
> Mae gohebiaeth rhwng R Williams Parry a Miss L M Roberts o
> Gaerfffili yn
> gynnar iawn yn cyfeirio at 'Blodau'r Gog', ac
> yn ei lawysgrif 'Blodau'r Gog'
> oedd enw gwreiddiol 'Clychau'r Gog'. Bwtsias
> y Gog yn enw arall gogleddol wrth
> gwrs, ond mae Bacsau Brain hefyd mewn rhannau o'r De -
> dydw'i ddim yn cofio
> ble yn benodol. Fawr o help gen i ofn wrth benderfynnu ar
> enwau priodol i
> Aberbargod.
>
> O, a chlywais i erioed enw heblaw 'cynffonnau w^yn
> bach' ar 'catkins' coed
> cyll - does neb yn cyfeirio at 'gynffonnau w^yn bach y
> gollen' chwaith, er
> bod 'catkins' eraill i'w cael, e.e ar y wernen.
> Mae'n siwr nawr y bydd rhywun
> yn fy nghywiro!
>
> Alwyn
|