Hyfryd! Dw i'n meddwl mai "bacse brain" roedd mam yn ei ddweud - ardal Ceinewydd - ac roedd "sane'r gwcw" yn gyfarwydd i mi hefyd - Pencader. Diolch yn fawr iawn Siān --- On Wed, 4/2/09, Alwyn Evans <[log in to unmask]> wrote: > From: Alwyn Evans <[log in to unmask]> > Subject: Re: bluebells > To: [log in to unmask] > Date: Wednesday, 4 February, 2009, 10:02 AM > Mae gohebiaeth rhwng R Williams Parry a Miss L M Roberts o > Gaerfffili yn > gynnar iawn yn cyfeirio at 'Blodau'r Gog', ac > yn ei lawysgrif 'Blodau'r Gog' > oedd enw gwreiddiol 'Clychau'r Gog'. Bwtsias > y Gog yn enw arall gogleddol wrth > gwrs, ond mae Bacsau Brain hefyd mewn rhannau o'r De - > dydw'i ddim yn cofio > ble yn benodol. Fawr o help gen i ofn wrth benderfynnu ar > enwau priodol i > Aberbargod. > > O, a chlywais i erioed enw heblaw 'cynffonnau w^yn > bach' ar 'catkins' coed > cyll - does neb yn cyfeirio at 'gynffonnau w^yn bach y > gollen' chwaith, er > bod 'catkins' eraill i'w cael, e.e ar y wernen. > Mae'n siwr nawr y bydd rhywun > yn fy nghywiro! > > Alwyn