On Oct 06, 2008, Carolyn Iorwerth wrote:
> Sori, Dafydd - methu cyfri chwaith! Ond mae Alt Gr 6 a'r llythyren wedyn
> dipyn yn fwy trwsgwl nag Alt a efo'r un llaw (yn enwedig pan wyt ti wedi bod
> yn gwneud hynny am 20 mlynedd!. Os ydw i'n dewis y symbol wrth fynd i
> Mewnosod Symbol yn XP ac wedyn yn gosod fy llwybr byr fy hun - ydi hynny'n
> golygu mai un Unicode ydw i'n ei ddefnyddio?
Dwi ddim yn meddwl fod angen poeni gormod am hyn. Mi fydd unrhyw
feddalwedd Office (o leia 2002 ymlaen a bosib cyn hynny) yn newid
popeth i fformat safonol yn fewnol. O leia dyna dwi'n weld ar fy
nghopi i.
Sdim ots os dwi'n teipio alt-131, neu ctrl+^,a neu alt-gr+^,a yr un
llythyren sy'n cael ei storio yn y ffeil, nod rhif '00E2' yn is-set
Lladin-1 o Unicode (sef a to-bach).
Hynny yw, mae e i gyd yn cael ei drosi'n fewnol i Unicode.
Yr unig lle oedd angen fod yn ofalus yn y gorffennol os oedd rhywun yn
ddefnyddio ffontiau 'celtaidd' arbennig oedd ddim yn cofnodi'r nodau
Cymreig yn y man cywir, ond dwi wedi gweld angen defnyddio rheiny ers
Windows 98!
|