'sgrifennodd Geraint Lovgreen:
> Dwi'n gwybod mai Yr Aes ydi The Hayes, ond mae 'na le newydd yn cael
> ei ddatblygu yno rwan o'r enw Hayes Place. Oes yna enw Cymraeg ar hwn
> eto tybed? All rhywun o GYngor Caerdydd fy ngoleuo?
Dwi ddim yn meddwl os fydde 'na enw swyddogol achos nid stryd yw
e ond rhywbeth mae'r datblygwyr wedi enwi. Mewn gwirionedd, 'sgwar'
agored yw e lle mae'r Aes yn cyfarfod gyda dau stryd arall (er ei
fod e mewn siap cylch).
Mae yna 'Place's arall yng nghanol Caerdydd sy'n cael ei cyfieithu i
Plas e.e. Plas y Parc, Plas yr Amgueddfa
|