Er y gall "o'r" fod ychydig yn amwys yn y cyd-destun hwn, rwy'n amau a
fyddai fawr o neb yn cymryd mai 'from the' yw'r ystyr. Pa mor aml y gwelwn
ni'r ymadrodd 'a Fellow from the Royal Academy' yn Saesneg? (Mae cymrodyr yn
rhy bwysig i ddod atoch chi - rhaid i chi fynd atyn nhw!)
Yr un "o'r'" a geir mewn ymadrodd fel 'yr ail bennod o'r efengyl yn ôl Luc',
h.y. yr 'o' a ddefnyddir i olygu rhan o gyfanwaith.
Byddwn i'n cymeradwyo'r ffurf a ddyfynnwyd gan Ann, sef 'Cymrawd er
Anrhydedd o Sefydliadau'r Peirianwyr Mecanyddol, Cemegol a
Saernïol'.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, September 05, 2008 12:40 PM
Subject: Re: Fellow
>
> Dwi ddim yn meddwl mai'r gair 'Cymrawd' ydi'r broblem, Berwyn, ond sut i
> gyfieithu'r "...of the..." .
>
> Geraint
>
> ----- Original Message -----
> From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, September 05, 2008 11:52 AM
> Subject: Re: Fellow
>
>
>> Mae 'Cymrawd' yn gwbl dderbyniol mewn cylchoed acaemaidd a thu hwnt.
>>
>> Berwyn
>>
>> ----- Original Message -----
>> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
>> To: <[log in to unmask]>
>> Sent: Friday, September 05, 2008 9:43 AM
>> Subject: Fellow
>>
>>
>>
>> Helo
>> Sut mae dweud "He is a Fellow of the Royal Cambrian Academy"?
>> Mae "Mae'n Gymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" yn swnio'n chwithig i
>> mi - er, wrth
>> gwrs, bod "Mae'n aelod o ..." yn iawn. Dydi "Mae'n Gymrawd yr Academi
>> ..."
>> ddim yn
>> swnio'n iawn chwaith
>> Mae 'na enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd o ..." ac "Mae'n Gymrawd yr ..."
>> ar
>> y we.
>> Dw i'n cael fy nhemtio i ddod rownd y broblem trwy ddweud "Mae'n un o
>> Gymrodyr yr
>> Academi ..."
>>
>>
>>
>> --------------------------------------------------------------------------------
>>
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.16/1652 - Release Date:
>> 04/09/2008 18:54
>>
>
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.16/1652 - Release Date: 04/09/2008
18:54
|