Helo
Sut mae dweud "He is a Fellow of the Royal Cambrian Academy"?
Mae "Mae'n Gymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" yn swnio'n chwithig i mi - er, wrth
gwrs, bod "Mae'n aelod o ..." yn iawn. Dydi "Mae'n Gymrawd yr Academi ..." ddim yn
swnio'n iawn chwaith
Mae 'na enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd o ..." ac "Mae'n Gymrawd yr ..." ar y we.
Dw i'n cael fy nhemtio i ddod rownd y broblem trwy ddweud "Mae'n un o Gymrodyr yr
Academi ..."
|