Mae'n dibynnu beth 'dych chi'n ei feddwl wrth "annealladwy". Gellid
anwybyddu ambell "she was sat" yn lle "she was sitting", a gwallau sydd yn
amlwg yn codi o newid y testun heb ei newid yn llwyr (newydd newid un o'r
rheina yn nhestun y neges hon). Mae'r defnydd o "may" yn lle "might" neu
"could" yn mynd yn fwyfwy cyffredin, ac er nad yw bob amser yn gwneud
erthygl yn annealladwy, mae weithiau'n golygu ei hail-ddarllen er mwyn deall
yn iawn a oedd rhywbeth wedi bod mewn perygl o ddigwydd, ynteu a yw o mewn
perygl o ddigwydd o hyd.
Hyn oedd yn fy meddwl wrth ofyn, a ddylai rhywun ysgrifennu at yr awdur
ynteu at y golygydd. 'Doeddwn i ddim yn meddwl am ysgrifennu at y golygydd i
gwyno am un gwall gan un unigolyn, ond ysgrifennu'n gyffredinol, lle mae
gwall fel hyn yn mynd yn rhemp trwy gydol y papur, a chan sawl gohebydd. Mae
gan "The Times" er enghraifft, ganllawiau arddull ar gyfer ei ohebyddion,
fel y mae gan y Cynulliad rywbeth tebyg.
Mae'n debyg fy mod in bedant - yn bedant pendant - er y ceisiaf beidio a bod
yn drwynsur. Efallai'r unig ateb bydd imi gael fy ngholofn fy hun yn rhywle,
lle gallaf gwyno wrth fodd fy nghalon.
O ran bod a dim byd gwell i'w wneud; mae'n ddrwg gen i fod mor "siaradus",
ond gyda chymaint o bobl ar eu gwyliau, a chyn lleied yn cyfrannau at y
cylch, mae'n hawdd anghofio nad ydym ond rhyw hanner dwsin o bobl yn cael
sgwrs. 'Taswn i ddim mor brysur - fy mai i: cam-amserlennu gwaith - ac wrth
y cyfrifiadur bore, dydd a nos - fuaswn i ddim yn ymuno yn y sgwrs mor aml
fel ychydig o ddifyrrwch! "Sad"- trist, ynteu?
Yn ol at y gwaith,
Ann
.
----- Original Message -----
From: "Inc Cyfieithu Translations" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, August 30, 2008 7:15 PM
Subject: Re: Iaith y Daily Post
> Hmm. Beirniadu nid cael eu beirniadu mae newyddiadurwyr. Oni bai bod y
> tri gwall yn gwneud yr erthygl yn annealladwy fy nheimlad i yw y
> byddai'r newyddiadurwr yn taflu unrhyw gwyn i'r bin ac yn gweld y
> beirniad yn bedant trwynsur heb ddim gwell i'w wneud na phigo beiau mewn
> gwaith pobl eraill. Gweler Pedants Corner yn Private Eye
>
> Wil
>
> Ann Corkett wrote:
>> Ymateb i neges Osian Rhys, dan "sick":
>> Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond mae'n f'atgoffa i o gwestiwn
>> arall a gododd dan "Eryri Gwyrdd".
>>
>> Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg cyhoeddus pobl heb
>> fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu Saesneg gohebyddion
>> mewn modd adeiladol?? Sut mae dweud wrth un o ohebyddion y Daily Post,
>> er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn un erthygl ganddo? Ai ato
>> fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y dylai rhywun ysgrifennu - a pha
>> mor aml?
>>
>> Ann
>> ------------------------------------------------------------------------
>>
>>
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG - http://www.avg.com
>> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date:
>> 29/08/2008 18:12
>>
>>
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date: 29/08/2008
18:12
|