Ystafell dawel, dywyll, piau hi
Wil
annes gruffydd wrote:
> Tua 5 neu 6 blynedd yn ol roedd gan Radio 4 restr Deg Uchaf o betha
> ych-a-pych oedd wedi sleifio i mewn fwyfwy. Dwi'n difaru f'enaid na
> ddaru mi mo'u taro nhw ar bapur achos roedden nhw'r union betha oedd
> yn dan ar fy nghroen inna. Dyna pam na ddaru mi mo'u taro nhw ar
> bapur, gan feddwl y baswn i'n eu cofio nhw. Ysywaeth gwae fi ac achon
> dyw i ddim yn eu cofio nhw bellach. Eniwe. Mae'r gwahaniaeth rhwng may
> a might i mi yn bwysig iawn - efallai bod rhywun wedi llwyddo i
> rwystro'r tan ta efallai y buasai'n bosib i rywun fod wedi llwyddo i
> rwystro'r tan? Byd o wahaniaeth. Un arall ar y rhestr oedd y defnydd
> hyll o ahead of yn lle before sy'n rhemp ar Radio 4. Dwi'm yn cofio'r
> 8 arall ond os taran nhw mhen i mo roi wbod.. Gresyn na fasa pawb wedi
> cael yr addysg ramadegol fanwl gywir gafodd rhai ohonan ni, mae'n
> amlwg. Pleser bob amser sgwrsio a phedant arall!
>
> Annes
>
> 2008/8/31 Ann Corkett <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Mae'n dibynnu beth 'dych chi'n ei feddwl wrth "annealladwy".
> Gellid anwybyddu ambell "she was sat" yn lle "she was sitting", a
> gwallau sydd yn amlwg yn codi o newid y testun heb ei newid yn
> llwyr (newydd newid un o'r rheina yn nhestun y neges hon). Mae'r
> defnydd o "may" yn lle "might" neu "could" yn mynd yn fwyfwy
> cyffredin, ac er nad yw bob amser yn gwneud erthygl yn
> annealladwy, mae weithiau'n golygu ei hail-ddarllen er mwyn deall
> yn iawn a oedd rhywbeth wedi bod mewn perygl o ddigwydd, ynteu a
> yw o mewn perygl o ddigwydd o hyd.
>
> Hyn oedd yn fy meddwl wrth ofyn, a ddylai rhywun ysgrifennu at yr
> awdur ynteu at y golygydd. 'Doeddwn i ddim yn meddwl am ysgrifennu
> at y golygydd i gwyno am un gwall gan un unigolyn, ond
> ysgrifennu'n gyffredinol, lle mae gwall fel hyn yn mynd yn rhemp
> trwy gydol y papur, a chan sawl gohebydd. Mae gan "The Times" er
> enghraifft, ganllawiau arddull ar gyfer ei ohebyddion, fel y mae
> gan y Cynulliad rywbeth tebyg.
>
> Mae'n debyg fy mod in bedant - yn bedant pendant - er y ceisiaf
> beidio a bod yn drwynsur. Efallai'r unig ateb bydd imi gael fy
> ngholofn fy hun yn rhywle, lle gallaf gwyno wrth fodd fy nghalon.
>
> O ran bod a dim byd gwell i'w wneud; mae'n ddrwg gen i fod mor
> "siaradus", ond gyda chymaint o bobl ar eu gwyliau, a chyn lleied
> yn cyfrannau at y cylch, mae'n hawdd anghofio nad ydym ond rhyw
> hanner dwsin o bobl yn cael sgwrs. 'Taswn i ddim mor brysur - fy
> mai i: cam-amserlennu gwaith - ac wrth y cyfrifiadur bore, dydd a
> nos - fuaswn i ddim yn ymuno yn y sgwrs mor aml fel ychydig o
> ddifyrrwch! "Sad"- trist, ynteu?
>
> Yn ol at y gwaith,
>
>
> Ann
>
> .
> ----- Original Message ----- From: "Inc Cyfieithu Translations"
> <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>
>
> To: <[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>>
> Sent: Saturday, August 30, 2008 7:15 PM
>
> Subject: Re: Iaith y Daily Post
>
>
> Hmm. Beirniadu nid cael eu beirniadu mae newyddiadurwyr. Oni
> bai bod y
> tri gwall yn gwneud yr erthygl yn annealladwy fy nheimlad i yw y
> byddai'r newyddiadurwr yn taflu unrhyw gwyn i'r bin ac yn gweld y
> beirniad yn bedant trwynsur heb ddim gwell i'w wneud na phigo
> beiau mewn
> gwaith pobl eraill. Gweler Pedants Corner yn Private Eye
>
> Wil
>
> Ann Corkett wrote:
>
> Ymateb i neges Osian Rhys, dan "sick":
> Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond mae'n f'atgoffa i o
> gwestiwn
> arall a gododd dan "Eryri Gwyrdd".
>
> Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg
> cyhoeddus pobl heb
> fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu Saesneg
> gohebyddion
> mewn modd adeiladol?? Sut mae dweud wrth un o ohebyddion y
> Daily Post,
> er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn un erthygl
> ganddo? Ai ato
> fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y dylai rhywun
> ysgrifennu - a pha
> mor aml?
>
> Ann
> ------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com <http://www.avg.com/>
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release
> Date: 29/08/2008 18:12
>
>
>
>
> --------------------------------------------------------------------------------
>
>
>
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com <http://www.avg.com/>
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date:
> 29/08/2008 18:12
>
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.14/1643 - Release Date: 30/08/2008 17:18
>
>
|