sy'n dangos mai trwch papur risla sydd rhwng y ddau erbyn heddiw
Wil
Siân Roberts wrote:
> Mm - ond wedyn pan fydd bechgyn bach yn chwarae pêl-droed ac un yn
> trin y bêl yn arbennig o fedrus - mae'r lleill yn gweiddi "Www, sgil!"
>
> On 24 Aug 2008, at 16:20, CATRIN ALUN wrote:
>
>> Cytuno!
>>
>> Catrin
>>
>>
>>
>> ----- Original Message ----
>> From: Inc Cyfieithu Translations <[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>>
>> To: [log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> Sent: Sunday, 24 August, 2008 12:47:32 PM
>> Subject: Re: sgiliau
>>
>> I mi mae sgiliau'n rhywbeth y mae rhywun yn ei ddysgu a medrau yn dangos
>> dawn naturiol, gynhenid.
>>
>> Wil
>>
>> Siân Roberts wrote:
>> > Wir, dyw "sgiliau" ddim yn fy mhoeni i o gwbl.
>> > Dw i'n deall mai benthyciad yw e, ond mae'n hen fenthyciad - Wiliam
>> > Llŷn yn yr 16g - "Da yw ei sgil, nid oes gwad"
>> > Mae'r acen dipyn bach yn ddiflas yn yr unigol ond dyw'r unigol ddim yn
>> > digwydd yn aml!
>> > Beth sy'n gwneud "sgiliau" yn fwy tebyg i hen neidr yn chwydu nag
>> > unrhyw air arall sy'n cynnwys y llythyren "s"?
>> > Sut mae hen neidr yn chwydu yn swnio'n wahanol i neidr ifanc yn chwydu?
>> >
>> > Dw i ddim yn licio "sgilgar" chwaith!
>> >
>> > Hwyl
>> > Siân
>> >
>> > On 24 Aug 2008, at 10:57, Meinir Thomas wrote:
>> >
>> >> Pan ro'n i'n gweithio 'da'r cyngor yn Rhondda, roedd y bos yn mynnu'n
>> >> bod ni'n defnyddio "medrau". Rwy'n parhau i ddefnyddio "medrau" yn fy
>> >> swydd bresennol. Os ydyn ni'n defnyddio hysbyseb sydd wedi'i
>> >> recordio'n barod gan gwmni (fel arfer rhai sy'n cael eu darlledu ar
>> >> sawl gorsaf radio dros Gymru), y gair "sgiliau" sy'n cael ei
>> >> ddefnyddio bob tro. Rwy'n gwingo bob tro rwy'n eu clywed!
>> >>
>> >> Meinir
>> >>
>> >> */annes gruffydd <[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> >> <mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>>/*
>> wrote:
>> >>
>> >> Yn ateb i bwynt Mary sydd heb eto gyrraedd yr edefyn yma - fedra
>> >> i ddim defnyddio'r gair medrau pan fo cwmni'n ei alw'i hun yn
>> >> Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn na fedra? felly rhaid i mi
>> >> ddefnyddio'r erthyllair sgiliau. Pwy bynnag fathodd y gair yn y
>> >> lle cynta sydd ar fai ....... Pwy???????
>> >> Annes
>> >>
>> >> 2008/8/23 Siân Roberts <[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>
>> >> <mailto:[log in to unmask]
>> <mailto:[log in to unmask]>>>
>> >>
>> >> Mae 'na bethau gwaeth!
>> >> Mae Plaid Cymru wedi dechrau galw'u cefnogwyr gweithgar yn
>> >> "actifyddion". O! Na!
>> >>
>> >>
>> >> On 22 Aug 2008, at 23:37, annes gruffydd wrote:
>> >>
>> >> Sori, jyst isio bwrw mol. Pwy isio bathu'r hen air hyll
>> >> yna o gwbwl. Be oedd yn bod ar 'medrau'? Mae sgiliau yn
>> >> swnio fel rhyw hen neidar yn chwydu. Ond go daria, dwi'n
>> >> gorfod ei ddefnyddio drwy'r amser am ei fod wedi ennilli
>> >> blwy a chwmniau'n eu galw'u hunain yn Sgiliau rwbath
>> >> neu'i gilydd. Sut aflwydd y digwyddodd hyn i gyd?
>> >>
>> >> Annes
>> >>
>> >>
>> >>
>> >>
>> >>
>> >> *MeinirAnnThomas*
>> >>
>> >> Send instant messages to your online friends
>> >> http://uk.messenger.yahoo.com <http://uk.messenger.yahoo.com/>
>> >>
>> >
>> > No virus found in this incoming message.
>> > Checked by AVG - http://www.avg.com <http://www.avg.com/>
>> > Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1629 - Release Date:
>> 23/08/2008 13:16
>> >
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.7/1629 - Release Date: 23/08/2008 13:16
>
|