Catrin
Yn codi o awgrym Robin, "Y Bencampwriaeth" yw'r "Championship" y mae
Caerdydd ac Abertawe yn chwarae ynddi, ond fe hoffwn i awgrymu ein bod yn
galw'r naill a'r llall yn "Uwch-gynghrair Lloegr" a "Phencampwriaeth Lloegr"
gan mai ond yn y Saesneg mae THE Premiership a THE Championship yn gweithio
mewn gwirionedd.
Mae gan wledydd eraill eu pencampwriaethau eu hunain, a phob un â'i henw -
La Liga yn Sbaen, Serie A yn yr Eidal, Ligue 1 yn Ffrainc ac ati, ac mae'r
gwledydd hyn bob amser yn cyfeirio at brif gynghrair Lloegr fel "The
Premiership". Ond, yn Ffrainc, er enghraifft, o ddydd i ddydd cyfeiriant at
Ligue 1 fel "Le Championnat" a dyna ni'n dechrau cymhlethu pethau i Gaerdydd
ac Abertawe!
I grynhoi, awgrymaf Uwch-gynghrair Lloegr a Phencampwriaeth Lloegr.
Huw
----- Original Message -----
From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 20, 2008 9:23 AM
Subject: Re: Premiership (pêl-droed)
Diolch Robin - o'n i'n meddwl mai'r Uwch Gynghrair oedd o - ond fe es at y
we a gweld rhywbeth am Abertawe a Chaerdydd yn chwarae yn yr Uwch
Gynghrair - a hyd y gwn i, dydy hynny ddim yn digwydd eto!!
Dyna ddrysodd fi!
Catrin
----- Original Message -----
From: "Hughes, Robin" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, June 20, 2008 9:12 AM
Subject: Re: Premiership (pêl-droed)
Haia Catrin,
Yr Uwch-gynghrair yw'r Premiership a Chynghrair y Pencampwyr yw'r Champions
League.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun
Sent: 20 June 2008 09:05
To: [log in to unmask]
Subject: Premiership (pêl-droed)
Oes 'na derm Cymraeg am y Premiership? Dwi'n credu mai'r Championship League
ydy'r Uwch Gynghrair - dechrau drysu!!
Catrin
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]
*******************************************************************
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.4.1/1510 - Release Date: 19/06/2008
15:21
|