Catrin Yn codi o awgrym Robin, "Y Bencampwriaeth" yw'r "Championship" y mae Caerdydd ac Abertawe yn chwarae ynddi, ond fe hoffwn i awgrymu ein bod yn galw'r naill a'r llall yn "Uwch-gynghrair Lloegr" a "Phencampwriaeth Lloegr" gan mai ond yn y Saesneg mae THE Premiership a THE Championship yn gweithio mewn gwirionedd. Mae gan wledydd eraill eu pencampwriaethau eu hunain, a phob un â'i henw - La Liga yn Sbaen, Serie A yn yr Eidal, Ligue 1 yn Ffrainc ac ati, ac mae'r gwledydd hyn bob amser yn cyfeirio at brif gynghrair Lloegr fel "The Premiership". Ond, yn Ffrainc, er enghraifft, o ddydd i ddydd cyfeiriant at Ligue 1 fel "Le Championnat" a dyna ni'n dechrau cymhlethu pethau i Gaerdydd ac Abertawe! I grynhoi, awgrymaf Uwch-gynghrair Lloegr a Phencampwriaeth Lloegr. Huw ----- Original Message ----- From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, June 20, 2008 9:23 AM Subject: Re: Premiership (pêl-droed) Diolch Robin - o'n i'n meddwl mai'r Uwch Gynghrair oedd o - ond fe es at y we a gweld rhywbeth am Abertawe a Chaerdydd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair - a hyd y gwn i, dydy hynny ddim yn digwydd eto!! Dyna ddrysodd fi! Catrin ----- Original Message ----- From: "Hughes, Robin" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, June 20, 2008 9:12 AM Subject: Re: Premiership (pêl-droed) Haia Catrin, Yr Uwch-gynghrair yw'r Premiership a Chynghrair y Pencampwyr yw'r Champions League. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Alun Sent: 20 June 2008 09:05 To: [log in to unmask] Subject: Premiership (pêl-droed) Oes 'na derm Cymraeg am y Premiership? Dwi'n credu mai'r Championship League ydy'r Uwch Gynghrair - dechrau drysu!! Catrin ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] ******************************************************************* -------------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG. Version: 8.0.100 / Virus Database: 270.4.1/1510 - Release Date: 19/06/2008 15:21