Dwi'n deall yn iawn nad yw Pegwn y Gogledd yr un peth a'r pegwn magnetig,
ond yr un gair ydan nhw yn Saesneg a does neb yn cael anhawster efo hynny.
Ac mae geiriau fel pegyniad, pegynedd a pegyndyniad yng Ngeiriadur y
Brifysgol ac yn bodoli ers 1858.
Od iawn.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, February 27, 2008 2:00 PM
Subject: Re: magnetic pole
On Wed, Feb 27, 2008 at 12:35:24PM -0000, GERAINT LOVGREEN wrote:
> A all rhywun fy ngoleuo pam y mae'r Termiadur ysgol yn rhoi 'pôl' yn
> hytrach na 'phegwn' am 'magnetic pole'?
>
> Mae'n arwain at sefyllfa hurt lle ceir NORTH CELESTIAL POLE = PEGWN
> WYBRENNOL Y GOGLEDD a NORTH MAGNETIC POLE = POL MAGNETIG Y GOGLEDD.
Wel am un peth, mae pegwn yn air daearyddol (a dyw pegwn y gogledd
ddim yn yr un lle a'r pol magnetig). Yn y maes Ffiseg, mae gan
fagned 'pol' a mae angen son am 'deupol' a pethau felly. Mae 'pol'
hefyd yn rhan o eirfa Cemeg, gyda cysyniad tebyg.
|